Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa fesurau newydd fydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod clo byr ar Dachwedd 9.

Fe fydd busnesau oedd wedi gorfod cau yn ystod y clo byr yn cael ail-agor ac fe fydd y cyfyngiadau am aros gartref a chwrdd â phobl yn cael eu llacio.

Serch hynny, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn “rhaid i ni gyd weithio’n galed i gadw Cymru’n ddiogel drwy ddilyn canllawiau syml i ddiogelu ein gilydd, rheoli’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) a lleihau’r risg o orfod cyflwyno cyfnod clo arall.”

Dyma’r prif bethau mae Llywodraeth Cymru am i bobl wneud:

  • Cadw allan o gartrefi pobl eraill, ar wahân i amgylchiadau cyfyng iawn
  • Cyfyngu faint o weithiau mae pobl yn gadael eu cartrefi, a’r pellter maen nhw’n teithio
  • Os ydy pobl yn gadael eu cartrefi mae angen cyfyngu faint o wahanol bobl maen nhw’n cwrdd â nhw.
  • Ymbellhau’n gymdeithasol, gan gynnwys y tu allan
  • Cwrdd â phobl y tu allan yn hytrach na dan do hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae pobl yn cael cwrdd dan do
  • Gweithio gartref lle bo hynny’n bosib
  • Golchi dwylo yn rheolaidd
  • Hunan-ynysu os oes symptomau o’r coronafeirws