Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru at y dyfodol yn peri cyfle i “fod yn flaengar” ag enwau lleoedd Cymru.
Dyna mae Dylan Foster Evans, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, wedi ei ddweud mewn sesiwn ag un o bwyllgorau’r Senedd brynhawn heddiw (dydd Iau, Tachwedd 5).
Mae’r Llywodraeth wedi amlinellu ei gweledigaeth ynghylch sut i ddatblygu’r wlad dros y degawdau nesaf mewn dogfen o’r enw ‘Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru’.
A brynhawn heddiw bu’r Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal sesiwn a sawl ffigwr o faes y Gymraeg er mwyn trafod lle iaith o fewn y weledigaeth.
“Blaengar”
Dan gynlluniau’r Llywodraeth bydd degau o filoedd yn rhagor o dai yn cael eu hadeiladu (gan olygu datblygiadau tai a fydd angen cael eu henwi) ac mae Dylan Foster Evans yn gweld potensial yn hyn o beth.
“Mae unrhyw gynllun fel hwn sydd yn uchelgeisiol, a hefyd yn ofodol ac yn ddaearyddol ei oblygiadau, yn mynd i gael effaith ar y tirlun, y dirwedd, a’r enwau lleoedd sy’n cael eu defnyddio,” meddai.
“Ac felly ar y naill law mae yna gyfleoedd amlwg fan hyn i fod yn flaengar wrth i ddatblygiadau newydd gael eu creu i edrych ar y dreftadaeth enwau sy’n bodoli eisoes.
“[Gellir] defnyddio’r rheiny. Rhoi bywyd newydd i rai o’r enwau o bosib. Mi fyddwn ni hefyd, mae’n siŵr, angen bathu enwau.”
Ategodd y “gallwn ni edrych i lefydd eraill o gwmpas y byd sydd wedi gwneud ymdrech fwriadol i adeiladu ar eu treftadaeth enwol.”
Ond rhybuddiodd bod y weledigaeth ddim yn fêl i gyd a bod “yna gyfleodd a phryderon i ni yn y maes yma”. Mae yna ofidion, meddai, bod “datblygiadau yn gallu arwain at golli enwau lleoedd”.
Beth yw’r fframwaith?
Mae Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru am ddatblygu Cymru rhwng 2020 a 2040.
Ymhlith y meysydd sydd yn ennyn sylw mae ynni, trafnidiaeth, y Gymraeg, yr amgylchedd, tai, a datblygiad diwydiannol.
Gellir darllen fersiwn drafft yma, a fersiwn haws i’w ddarllen yma.