Mae cronfa wedi cael ei sefydlu i helpu teulu sydd wedi colli tri aelod o fewn pum niwrnod i’w gilydd oherwydd y coronafeirws.

Bu farw Gladys Lewis, 74, o Pentre, Y Rhondda, ddydd Iau (Hydref 29), yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyn marwolaeth ei mab, Dean, 44, oedd yn dad i dri o blant, yn ei gartref yn Nhreorci.

O fewn oriau i’r newyddion bod Gladys a Dean wedi marw, sefydlodd ffrindiau’r teulu Alison Higgins a Jemma Hopkins dudalen GoFundMe er mwyn codi arian i helpu gŵr Gladys, David Lewis, 81, a gweddill y teulu.

Mae’r rhain yn cynnwys merch David Lewis, Debbie, 41, a oedd bryd hynny’n gorfod delio â marwolaethau Gladys a Dean, tra bod ei brawd arall, Darren, yn ddifrifol wael mewn uned gofal dwys.

Yn anffodus, bu farw Darren, 42, nos Lun (Tachwedd 2).

GoFundMe

Mae tudalen GoFundMe y teulu bellach wedi pasio ei darged o £5,000, ond mae’r sefydlwyr yn annog pobol i ddal ati i gyfrannu.

“Byddai unrhyw rodd yn cael ei werthfawrogi’n fawr gennyf fi ac eraill sy’n adnabod y teulu,” meddai’r dudalen GoFundMe.

“Mae’r teulu hwn yn cymryd rhan mewn cymaint o waith elusennol, felly mae’n bwysig ein bod ni’n dod at ein gilydd i’w helpu nhw.”

Dywedodd Alison Higgins: “Fel un o ffrindiau Debbie, doedd dim amheuaeth bod angen cefnogaeth ariannol ac emosiynol ar y teulu gan ein cymuned.

“Mae’r peth yn hunllefus, mae beth sydd wedi digwydd yn anghredadwy.

“Dw i eisiau codi gymaint o arian â phosibl i’r teulu i’w cefnogi gyda’r tri angladd a defnyddio’r gweddill am beth bynnag sydd ei angen arnynt.”