Mae ail achos o’r coronafeirws wedi’i gadarnhau yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog, ar Ynys Môn.

Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 4) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma’r ail achos o’r coronafeirws i gael ei gadarnhau yn yr ysgol.

Ond nid oes tystiolaeth i awgrymu fod ymlediad o fewn yr ysgol a bydd yn parhau ar agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio.

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi derbyn manylion yr achosion positif ac mae disgyblion a staff perthnasol wedi derbyn cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae 12 o ysgolion ar Ynys Môn wedi cadarnhau achosion o’r coronafeirws bellach.

Mae’r rhain yn cynnwys Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Uwchradd Llangefni, Ysgol Gynradd Talwrn, Ysgol Cybi, Ysgol Sefydledig Caergeiliog, Ysgol Llanfairpwll, ac Ysgol Rhyd y Llan.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan: “Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r ysgolion sydd wedi’u heffeithio ac yn cefnogi’r staff yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Ein blaenoriaeth yw lles y disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yng Nghaergeiliog er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.”