Mae’r Canghellor, Rishi Sunak, wedi cadarnhau y bydd y cynllun ffyrlo, neu saib swyddi, yn cael ei ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Bydd gweithwyr yn derbyn hyd at 80% o’u cyflog am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio – hyd at £2,500 y mis. Bydd y polisi yn cael ei adolygu ym mis Ionawr.

“Mae rhagolygon y Banc fore heddiw yn dangos bod gweithgarwch economaidd yn cael ei gefnogi gan ein gweithredu sylweddol trwy bolisi ariannol,” meddai.

“Amddiffyn swyddi a bywoliaethau – dyna ein prif flaenoriaeth o hyd,” meddai wedyn.

Ffafriaeth i Loegr?

Cafodd y cynllun ffyrlo ei gyflwyno fel ymateb i’r argyfwng coronafeirws, ac roedd disgwyl iddo ddod i ben ar Hydref 31.

Ond mae bellach wedi cael ei ymestyn i gyd-daro â chyflwyniad y clo cenedlaethol a fydd mewn grym yn Lloegr am o leia’ pedair wythnos (daeth y clo i rym fore heddiw, Tachwedd 5).

Mae’r mater wedi corddi’r llywodraethau datganoledig, ac wedi codi amheuon bod Llywodraeth San Steffan yn dangos ffafriaeth i Loegr wrth fynd i’r afael â’r argyfwng.

Mi wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn am y fath ymestyniad cyn dechrau’r ‘clo dros dro’ yng Nghymru – dechreuodd y clo fis diwetha’ ac mi fydd yn dod i ben wythnos nesa’.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin brynhawn heddiw, dywedodd y Canghellor y byddai cyllid i’r llywodraethau datganoledig yn cynyddu gan £2biliwn o £14bn i £16bn.

“Tawel meddyliau”

Yn ystod ei gyhoeddiad, wnaeth Rishi Sunak hefyd geisio mynd i’r afael â’r blas chwerw yng nghegau’r Llywodraethau datganoledig.

“Dw i am dawelu meddyliau pobol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Cafodd y cynllun ei ddylunio a’i ddelifro gan Lywodraeth y Deyrnas unedig ar ran holl bobol y Deyrnas Unedig, lle bynnag maen nhw’n byw.

“Mae hynny wedi bod yn wir ers mis Mawrth, ac mi fydd yn parhau’n wir hyd at fis Mawrth nesa’.”

“Mae’r Trysorlys wastad wedi bod – ac mi fydd yn parhau i fod – yn Drysorlys i holl bobol y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.