Mae Prifysgol Abertawe wedi gwahardd nifer o fyfyrwyr dros dro yn dilyn achosion “difrifol” o dorri rheolau Covid-19.

Hyd yma mae 15 o fyfyrwyr wedi eu gwahardd dros dro ond mae’r Brifysgol wedi rhoi gwybod fod ymchwiliadau yn parhau ac y gallai rhagor gael eu gwahardd.

Bu rhaid i dimau diogelwch y Brifysgol ymyrryd nifer o weithiau ar Gampws Singleton dros y penwythnos er mwyn gorfodi’r rheoliadau.

Mae Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe, Andrew Rhodes, sy’n ymchwilio i’r achosion, wedi siarad â phob un o’r myfyrwyr sydd wedi torri’r rheolau.

“Mae’n siomedig iawn bod rhai myfyrwyr wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac rwy’n ymddiheuro i’r gymuned am unrhyw drafferthion a achoswyd,” meddai.

“Gobeithio y bydd y camau disgyblu hyn yn anfon neges gref at ein cymuned o fyfyrwyr am yr angen i gadw at reoliadau Covid-19 bob amser, ac am ganlyniadau peidio â gwneud hynny.”

Ychwanegodd Andrew Rhodes ei fod wedi atgoffa’r myfyrwyr sydd wedi eu gwahardd o’r rheolau a’r camau disgyblu posib.

Daw hyn wedi i chwech o fyfyrwyr dderbyn rhybudd fis diwethaf gan Brifysgol Abertawe am dorri rheolau Covid-19.

Mae cosbau’r brifysgol yn amrywio o gynnig ymddiheuriad, cyflwyno rhybuddion ysgrifenedig ffurfiol neu gontract ymddygiad i fyfyrwyr, symud myfyrwyr allan o’u llety, eu gwahardd dros dro neu eu diarddel o’r Brifysgol.

Heddlu De Cymru yn croesawu’r gwaharddiadau

Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu’r camau gweithredu a gymerwyd gan Brifysgol Abertawe.

“Mae’n anffodus bod yr unigolion hyn wedi penderfynu anwybyddu’r rhybuddion a roddwyd iddynt,” meddai Trudi Meyrick, Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru.

“Bydd eu gweithredoedd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol iddynt, ac rwy’n gwybod nad yw’r Brifysgol wedi cyflwyno’r cosbau hyn ar chwarae bach.

“Dim ond fel dewis olaf y bydd yr heddlu’n cymryd camau gorfodi.

“Fodd bynnag, byddwn yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gwrthod gwrando ac sy’n parhau i ddiystyru’r rheolau.”