Mae cwmni telathrebu BT yn wynebu’r streic genedlaethol gyntaf mewn mwy na chwarter canrif yn sgil anghydfod ynghylch nifer o faterion yn ymwneud â swyddi, cyflog ac amodau.

Cyhoeddodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) ei fod yn cynnal pleidlais ymgynghorol ymhlith ei haelodau a allai arwain at bleidlais ynghylch cymryd camau diwydiannol.

Dywedodd yr undeb ei bod yn ystyried mynd ar streic oherwydd gweithredoedd “cynyddol ymosodol” gan y rheolwyr.

Bydd y pleidleisio’n dechrau yn ddiweddarach y mis hwn ac yn cau ar Ragfyr 10.

Rhybuddiodd swyddogion CWU, os na fydd cynnydd mewn trafodaethau gyda’r cwmni, fod “posibilrwydd gwirioneddol” o bleidlais o blaid gweithredu diwydiannol, a dywedodd y gallai arwain at y streic genedlaethol gyntaf yn BT ers 1994.

“Elw o flaen pobol”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol CWU, Dave Ward: “Dyma’r bleidlais bwysicaf mae ein haelodau wedi gorfod ei bwrw ers ymuno â’r cwmni

“Mae hyn yn ymwneud â diogelwch swyddi, cyflog, hawliau gweithwyr, a chyfeiriad y cwmni yn y dyfodol.

“Ar ôl degawdau o sefydlogrwydd diwydiannol, rydym bellach yn gweld BT yn cychwyn ar raglen filain o ddiswyddiadau gorfodol, cau safleoedd ac ymosodiadau ar gyflogau, telerau ac amodau.

“Maen nhw’n rhoi elw o flaen pobol.

“Os gadawn i’r cwmni gyflawni’r newidiadau hyn heb wrthwynebiad difrifol, yna bydd y llifddorau’n agor.”

BT yn ofni “disgyn ar ei hôl hi”

Dywedodd llefarydd ar ran BT: “Mae BT yn mynd drwy gyfnod o newid a buddsoddiad aruthrol ar gyfer y dyfodol.

“Wrth i’r farchnad barhau i esblygu ac i anghenion ein cwsmeriaid yn newid, bydd angen y sgiliau a’r galluoedd cywir arnom er mwyn addasu ac ymateb.

“Bydd hyn yn arwain at lai o bobol yn gweithio i’r cwmni ymhen pum mlynedd, ond byddwn yn blaenoriaethu darparu cyfleoedd ailhyfforddi, ailsgilio, ac adleoli lle y gallwn.

“Os nad ydym yn gwella ein cynhyrchiant a’n heffeithlonrwydd, bydd BT yn disgyn ar ei hôl hi mewn marchnadoedd hynod gystadleuol.”