Mae Gweinidog yr Economi wedi croesawu estyniad y cynllun ffyrlo, er gwaetha’r ffaith ei fod “ychydig yn hwyr”.

Brynhawn heddiw cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, y byddai’r cynllun (sy’n talu canran o gyflogau gweithwyr) yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.

Yn wreiddiol cyflwynwyd estyniad tan 2 Rhagfyr i gyd-daro â chlo newydd Lloegr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am gam tebyg i gyd-daro â chlo Cymru, ac mae’r ymdriniaeth wahanol i’r gwahanol wleydd wedi bod yn testun cryn anniddigrwydd.

Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw dywedodd Ken Skates bod yna groeso i’r estyniad hyd mis Mawrth, ond bod angen i Lywodraeth San Steffan weithredu yn gynt yn y dyfodol.

“Dw i’n croesawu’r cyhoeddiad sydd yn gwireddu rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw amdano ers cryn amser,” meddai.

“Wrth gwrs bydda’ i yn pori trwy fanylion y cyhoeddiad a’r goblygiadau i Gymru. Y risg mwyaf i economi Cymru yw peidio â gwneud digon, a gweithredu’n rhy hwyr,” meddai wedyn.

“Felly mae’n allweddol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig – os fydd angen cefnogaeth bellach – yn cyflwyno hynny cyn gynted â phosib.”

Dywedodd y Gweinidog hefyd fod y penderfyniad yn brawf o’r fantais o gael Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig, yn dilyn twf diweddar yn nifer aelodau grŵp ymgyrchu annibyniaeth i Gymru, YesCymru.

“Dw i hefyd yn credu ei fod yn dangos y gwerth o undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn gweithio â’i gilydd i oresgyn argyfwng economaidd coronafeirws,” meddai.

Ategwyd ei sylwadau gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mewn trydariad

Ôl-ddyddio

Mewn datganiad yn ddiweddarach, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, fod tro pedol munud olaf Llywodraeth y DU wedi achosi “niwed anfesuradwy i fywydau pobl”, a galwodd am ôl-ddyddio’r cymorth i fusnesau a gweithwyr yng Nghymru am bob un o 17 diwrnod y clo dros dro.

“Mae’n annerbyniol bod Llywodraeth y DU wedi aros nes i gyfyngiadau symud gael eu cyflwyno yn Lloegr cyn gweithredu.  I lawer o fusnesau a gweithwyr mae’r estyniad hwn wedi dod yn rhy hwyr,” meddai’r Gweinidog Cyllid.

“Mae’n amlwg bellach y gallai’r Canghellor fod wedi rhoi mwy o gefnogaeth i’r cyfnod atal hanfodol yng Nghymru o 17 diwrnod.

“Byddaf yn parhau i bwyso ar Drysorlys Ei Mawrhydi i ôl-ddyddio’r  gefnogaeth ar gyfer y cyfnod hwn.”

Ymddygiad “annerbyniol”

Hefyd, yn ystod anerchiad Ken Skates i’r wasg, mi ddaeth neges annisgwyl am yr angen i drin staff y sector cyhoeddus â pharch.

“Dw i wedi cael gwybod am nifer o achosion, dros yr wythnos ddiwetha’, o ymddygiad annifyr ac ymosodol yn erbyn staff llinell cymorth Busnes Cymru,” meddai.

“Mae hyn yn annerbyniol. Mae’r ymddygiad gwrthun yma hefyd wedi’i brofi yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ein siopau, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae staff yn gwneud eu gorau mewn sefyllfaoedd hynod o anodd. Rydym yn brwydro’r feirws yma gyda’n gilydd.

“Ac mae dangos ychydig o gwrteisi a pharch yn gwneud tipyn o wahaniaeth i wytnwch emosiynol a meddyliol pobol,” meddai Mr Skates.