Mae gweinidogion Cymru’n cwestiynu pam fod Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi penderfynu ymestyn y cynllun ffyrlo wrth ymateb i gyfnod clo Lloegr pan wnaeth e wrthod ei ymestyn wrth i Gymru a’r Alban wynebu cyfyngiadau coronafeirws tebyg.
Daeth cadarnhad y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn am fis, wrth i Loegr wynebu cyfnod clo rhwng Tachwedd 5 a Rhagfyr 2.
Mae Cymru’n destun cyfyngiadau tan Dachwedd 9, tra bydd cyfyngiadau newydd yn eu lle yn yr Alban o yfory (dydd Llun, Tachwedd 2) yn ôl haenau tebyg i’r hyn sydd wedi bod mewn grym yn Lloegr.
Ymateb yng Nghymru
Wrth ymateb i’r helynt, fe ddywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, fod “ffyrlo yn allweddol i fusnesau”.
Mae ffyrlo yn allweddol i fusnesau. Dywedodd @RishiSunak na fyddai’n ei ymestyn yng Nghymru pan ofynnom.
Na oedd ei ateb hefyd pan ofynnom iddo ymestyn y Cynllun Cefnogi Swyddi i helpu ein busnesau, er i ni gynnig talu’r gwahaniaeth.
Mae'n glir byddai wedi gallu cytuno i hynny.
— Mark Drakeford (@fmwales) October 31, 2020
Ac yn ei ymateb yntau, mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi cwestiynu pa mor gydradd yw gwledydd Prydain.
“Dylid fod wedi ymestyn hyn amser hir yn ôl,” meddai, wrth ail-drydar neges y Canghellor Rishi Sunak am ymestyn y cynllun.
“Ac os ydych chi’n credu ein bod ni’n “Sefyll Gyda’n Gilydd” – pam wnaethoch chi ddim gweithredu pan mai busnesau a gweithwyr yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd Lloegr oedd yn chwilio am y gefnogaeth?”
Pan awgrymodd rhywun, wrth ymateb, fod y drefn yn gyfystyr â “llywodraethiant anghymesur”, dywedodd Jeremy Miles fod hynny “yn agos i ben mwyaf poleit y peth y gellir ei alw”.