Mae’r Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio am beryglon Storm Aiden a Chorwynt Zeta yng Nghymru heddiw (dydd Sul, Tachwedd 1).

Mae disgwyl i’r glaw trwm barhau yng Nghymru, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn parhau i rybuddio y gallai llifogydd effeithio ar gartrefi a busnesau, gan achosi difrod i adeiladau mewn sawl ardal.

Maen nhw’n dweud y gallai lefelau uchel afonydd beryglu bywydau, tra bod disgwyl oedi hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio am amodau gyrru gwael a chau ffyrdd mewn rhai llefydd, yn ogystal â cholli cyflenwadau trydan.

Llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 36 o rybuddion am lifogydd.

Mae’r rhybudd coch yn ei le yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i ddolau Trefalyn.

Rhybuddion oren “byddwch yn barod” yw’r gweddill, ac mae’r rheiny yn eu lle yn yr ardaloedd canlynol:

  • Arfordir Ceredigion rhwng Clarach ac Aberteifi
  • Arfordir Sir Gaerfyrddin
  • Arfordir Llyn a Bae Ceredigion
  • Arfordir Gorllewin Môn
  • De Sir Benfro
  • Ceredigion Ganol
  • Ewenni a gorllewin Bro Morgannwg
  • Afan a Chynffig
  • Penrhyn Gŵyr
  • Gwy ym Mhowys
  • Dyffryn Dyfrdwy Uchaf o Lanuwchllyn i Langollen, gan gynnwys Corwen
  • Cleddau Ddu
  • Taf a Chynin
  • Cleddau Wen
  • Dalgylch Gogledd Gwynedd
  • Llynfi ac Ogwr
  • Nedd
  • Nant-y-fendrod a Nant Brân
  • Tawe Isaf
  • Tawe Uchaf
  • Afonydd Llanelli
  • Llwchwr ac Aman
  • Gwendraeth Fawr
  • Gwendraeth Fach
  • Teifi Uchaf
  • Teifi Isaf
  • Brân Gwydderig
  • Cothi
  • Tywi Isaf
  • Tywi Uchaf
  • Dolgellau
  • Dalgylch Dysynni
  • Dalgylch Dyfi
  • Dalgylch Mawddach ac Wnion
  • Dalgylch Conwy
  • Dalgylchoedd Glaslyn a Dwyryd