“A Mystic Meg ydw i” oedd ymateb Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn y Rhondda, i sylwadau Aelod Seneddol Ceidwadol mai “dim ond pelen grisial” allai fod wedi rhagweld yr angen am ail gyfnod clo.

Daeth sylwadau Nadine Dorries, Aelod Seneddol Canol Swydd Bedford, mewn erthygl yn The Independent sydd y tu ôl i wal sy’n gofyn i ddarllenwyr gwblhau slogan Llywodraeth Prydain, ‘Hands, Face, Space’, gan gynnig opsiynau ar gyfer yr ateb cywir cyn bod modd parhau i ddarllen yr erthygl.

Roedd gwyddonwyr eisoes yn rhybuddio ar Fedi 21 y gall fod angen ail gyfnod clo dros dro er mwyn mynd i’r afael â’r coronafeirws.

“O am gael pelen grisial a gallu gweld, mewn gwirionedd, faint o [bobol] dros 60 oed fyddai wedi’u heintio, y gyfradd bositif, y gyfradd heintio a’r ‘lag’ a ddilynodd gan roi i ni’r 14 diwrnod o alw a ragwelwyd o ran gwlâu ysbytai ar unrhyw ddiwrnod, dair wythnos ymlaen llaw,” meddai’r gweinidog sy’n gyfrifol am iechyd meddwl.

Wrth ymateb, dywedodd Alex Norris, un o lefarwyr iechyd Llafur, nad oedd angen pelen grisial.

“Dim ond gwrando ar wyddonwyr oedd wedi rhybuddio droeon y byddai hyn yn digwydd [oedd ei angen],” meddai.

“Anwybyddodd y llywodraeth alwadau am gyfnod byr o bythefnos i dorri’r cylch ac o ganlyniad, rydym nawr yn wynebu cyfnod clo estynedig a fydd yn niweidio’r economi ac y bydd pobol gyffredin yn talu’r pris ar ei gyfer.”

‘Syndod’

Ond dywedodd Nadine Dorries ei bod hi’n “syndod” fod y feirws wedi ymledu mor gyflym ymhlith pobol dros 60 oed, gan roi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd.

Honnodd wedyn y “gall unrhyw un edrych ar y dashfwrdd Covid ar gov.uk a dilyn trywydd y feirws”.

Daeth ei sylwadau cyn i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi’r cyfnod clo yn Lloegr.