Gallai cyfnod clo Lloegr bara mwy na phedair wythnos, yn ôl Michael Gove, sy’n aelod o Gabinet Llywodraeth Prydain.

Bydd y cyfnod clo yn dod i rym ddydd Iau (Tachwedd 5) ac fe fydd mewn grym tan Ragfyr 2.

Ond dywedodd Michael Gove wrth raglen Sophy Ridge On Sunday ar Sky News y bydd adolygiad o’r cyfyngiadau’n cael ei gynnal ar ddiwedd y cyfnod hwnnw i benderfynu a oes angen eu hymestyn neu a fydd modd eu llacio.

“Rydyn ni eisiau bod mewn sefyllfa lle gallwn ni – a dw i’n credu bod hyn yn debygol o fod yn wir – ddilyn camau lle, os ydyn ni’n gostwng y gyfradd heintio’n ddigonol, gallwn ni leihau’r mesurau’n genedlaethol a hefyd leihau’r mesurau’n rhanbarthol,” meddai.

“Oherwydd mae’r dull rhanbarthol yn un sydd, lle bynnag y bo’n bosibl, yn un rydyn ni eisiau ei gymryd oherwydd, unwaith eto, rydyn ni’n cydnabod y gall fod yn wir yn y dyfodol ar ôl gostwng y gyfradd R o dan 1, ar ôl lleihau’r cyfyngiadau cenedlaethol, y gallem weld cynnydd penodol mewn ardaloedd penodol a fydd yn gofyn am fesurau rhanbarthol penodol.”