Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi awgrymu y bydd atal ymwelwyr o Loegr rhag dod i dafarnau yng Nghymru’n ystyriaeth wrth benderfynu pryd i’w cau nhw ar ddiwedd y cyfnod clo dros dro yng Nghymru, pan fydd Lloegr yn parhau dan gyfyngiadau.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i ben yng Nghymru ar Dachwedd 9, ond bydd cyfnod clo Lloegr yn para tan Ragfyr 2.

Dywedodd y prif weinidog wrth raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 1) mai heddluoedd yng Nghymru fydd yn gyfrifol am blismona’r ffin yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Mae hwn yn gwestiwn mawr, on’d yw e?” meddai Mark Drakeford.

“Wel, yr heddlu yma fydd yn gyfrifol am wneud hynny os mae pobol yn trio dod dros y ffin.

“A dyna ble mae’r ffin yn bwysig, a dyna ble bydd rhaid i ni feddwl am y ffin yn y Cabinet prynhawn yma.

“Ond os mae tafarnau ar agor yma yng Nghymru tan 10 o’r gloch yn y nos a does dim tafarnau o gwbl ar agor… Ry’n ni’n meddwl am Gaer a Wrecsam, er enghraifft… Os mae’r tafarnau ar gau yng Nghaer ond i gyd ar agor yn Wrecsam tan 10 o’r gloch yn y nos, ydy hwnna yn mynd i dynnu pobol dros y ffin a bydd pobol yn trio dod drosodd ac mae hwnna yn mynd i achosi problemau i’r heddlu yng Nghymru?

“Dyna ble mae beth sydd wedi digwydd yn Lloegr yn creu cyd-destun newydd i ni yng Nghymru, a dyna pam mae’n bwysig i ni gael cyfle i feddwl am y manylion y prynhawn yma.”