Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o ragrith ar ôl i Lywodraeth Geidwadol Prydain gyflwyno cyfyngiadau dros dro tebyg i’r rhai mae’r Torïaid wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn eu cylch.
Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 31) y bydd Lloegr yn dechrau cyfnod clo dros dro ddydd Mercher (Tachwedd 4).
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r cyfnod clo dros dro sydd yng Nghymru hyd at Dachwedd 9.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, fod y cyfnod clo dros dro yng Nghymru’n “annheg”, ac roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru a Llafur Cymru er bod tystiolaeth wyddonol yn awgrymu bod angen cyfnod clo dros dro i arafu ymlediad y coronafeirws.
‘Tawelwch byddarol’
“Mae tawelwch byddarol y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno cyfnod clo yn Lloegr yn drewi o ragrith,” meddai Adam Price.
“Dim ond yr wythnos ddiwethaf roedd Torïaid blaenllaw, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn aflafar wrth wrthwynebu mesurau cenedlaethol er gwaethaf cyngor SAGE yn dangos yn glir y byddai’n achub bywydau.
“Nawr fod eu plaid eu hunain am gyflwyno’r un peth yn Lloegr, rhaid i’r ffigurau Torïaidd blaenllaw hynny yng Nghymru ymddiheuro ar unwaith am fachu ar gyfle pur i chwarae gwleidyddiaeth â bywydau pobol.
“Gyda chyfraddau trosglwyddo’n codi’n gyflym yn Lloegr wrth iddyn nhw ddechrau ar ail gyfnod clo cenedlaethol, rhaid i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd nawr fod cyfyngiadau teithio’n aros yn eu lle yn dilyn diwedd cyfnod clo dros dro Cymru.”