Gyda thri diwrnod i fynd tan yr etholiad ddydd Mawrth, mae 90 miliwn o bobl eisoes wedi bwrw eu pleidlais yn America.
Mae’r nifer yn cyfateb i 65.3% o gyfanswm yr holl bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad yn 2016.
Mae’r niferoedd yn amrywio’n sylweddol o dalaith i dalaith. Mewn dwy – Texas a Hawaii – mae’r nifer yn fwy na chyfanswm yr holl bleidleisiau yn 2016. Ymhlith taleithiau eraill lle mae’r ganran yn hynod o uchel mae Montana (95.8%), Washington (93.8%), Georgia (93.2%) a Gogledd Carolina (91.1%). Ar y llaw arall, mae’r canrannau cyn ised â 10.4% yn Alabama ac 11.8% yn Mississippi.
Gall y niferoedd uchel hyn argoeli am y nifer mwyaf erioed o bleidleisiau mewn etholiad arlywyddol yn y wlad – er na all neb fod yn sicr o hyn cyn gwybod faint fydd yn troi allan ar y diwrnod.
Mae’n debygol o olygu na fydd dyddiau olaf yr ymgyrchu yn cael cymaint o effaith ag arfer, gan y gallai canlyniad yr etholiad yn hawdd fod wedi’i benderfynu i raddau helaeth eisoes.
Nid oes ateb syml i’r cwestiwn o beth fydd arwyddocâd hyn ar y canlyniad terfynol.
Yn draddodiadol, mae Democratiaid wedi bod yn fwy tueddol na’r Gweriniaethwyr i bleidleisio’n gynnar neu drwy’r post. Does dim sicrwydd fod hynny’n wir ym mhobman y tro hwn, a ph’run bynnag gallai troad allan cryf gan Weriniaethwyr ar y diwrnod newid y sefyllfa. Ar y llaw arall, po fwyaf o Ddemocratiaid fydd wedi pleidleisio’n gynnar, mwyaf anodd fydd hi i Donald Trump gael digon o bleidleiswyr i’w gwrthbwyso ar y diwrnod.