Mae Nicola Sturgeon yn annog Albanwyr i beidio â theithio i Loegr ac eithrio ar gyfer “dibenion hanfodol”.
Dywed Prif Weinidog yr Alban fod llai o achosion o’r feirws yn yr Alban nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar ôl i fesurau llymach gael eu cyflwyno yno.
Fe fydd cyfres newydd pum-haen o gyfyngiadau yn dod i rym yn yr Alban ddydd Llun. Mewn ardaloedd Lefel 3, sy’n cynnwys Glasgow a Chaeredin, mae pobl yn cael eu hannog yn gryf i beidio â mynd y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol eu hunain.
“Ni ddylai pobl deithio i mewn nac allan o ardaloedd lefel 3 yn yr Alban, ac ar hyn o bryd, rydym yn gofyn i bobl beidio â theithio i Loegr o gwbl, ac eithrio i ddibenion hanfodol,” meddai Nicola Sturgeon.
Daw ei hapêl wrth i’r sibrydion ddwysáu y bydd Boris Johnson yn cyhoeddi cyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr ddydd Llun.
“Byddwn yn seilio penderfyniadau ar amgylchiadau yma – er ei bod yn amlwg na fydd yr hyn sy’n digwydd dros y ffin yn amherthnasol i’n hystyriaethau,” meddai Nicola Sturgeon.
“Dros y dyddiau nesaf, bydd Llywodraeth yr Alban yn ystyried data ar ledaeniad y feirws, fel y byddwn yn ei wneud bob amser, ac yn rhoi sylw i unrhyw ddatblygiadau yn Lloegr.”