Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi cyhoeddi cyfyngiadau llym ledled Lloegr mewn ymateb i rybuddion am gynnydd mewn heintiadau coronafeirws.

Roedd Boris Johnson wedi bod yn gyndyn o gyflwyno cyfnod clo tebyg i’r un sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae’r rhybuddion diweddaraf gan wyddonwyr yn awgrymu bod hanner miliwn o bobl yn cael eu heintio bob wythnos felly mae wedi gwneud tro pedol.

Bydd tafarndai, bariau, bwytai a siopau nad ydynt yn hanfodol yn cau yn Llowgr o ddydd Iau, a dylai’r bobl aros gartref oni bai fod ganddynt reswm penodol dros fynd allan – fodd bynnag, bydd ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn aros ar agor.

Caniateir i bobl fynd allan i ymarfer corff a chymdeithasu mewn mannau cyhoeddus y tu allan gydag aelodau eu haelwyd neu un person arall – ond nid dan do nac mewn gerddi preifat. Hefyd, cânt deithio i’r gwaith os na allant weithio gartref.

Ffyrlo

Bydd y cynllun ffyrlo’n cael ei ymestyn drwy gydol y cyfyngiadau sydd eisoes wedi ysgogi ymateb chwyrn yma yng Nghymru gan nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon gwneud newidiadau i’r cynllun i gyd-fynd â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AoS, eisoes wedi ymateb i hynny, isod.

5 Tachwedd tan 2 Rhagfyr

Bydd ASau yn pleidleisio ar y mesurau newydd cyn iddynt gael eu cyflwyno am 00:01 ddydd Iau 5 Tachwedd.

Pan fyddant yn dod i ben ar 2 Rhagfyr, bydd y system haenau bresennol yn cael ei hailgyflwyno yn Lloegr.

Bydd y cyfnod clo yng Nghymru’n dod i ben ymhen ychydig dros wythnos (9 Tachwedd), ac yna fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi ddydd Llun pa gyfyngiadau fydd mewn grym wedi hynny.

Fe fydd cabinet Llywodraeth Cymru’n cyfarfod yfory i drafod goblygiadau unrhyw gyfnod clo cenedlaethol yn Lloegr ar Gymru.