Mae gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill 20% yn llai na phobol sydd ddim yn anabl.

Yn ôl adroddiad gan TUC Cymru, Cyngres Undebau Llafur, mae’r bwlch cyflog anabledd wedi cynyddu gan £800 dros y flwyddyn ddiwethaf i £3,800.

Golyga hyn fod pobol anabl sy’n gweithio 35 awr yr wythnos, i bob pwrpas yn gweithio am ddim am 60 diwrnod y flwyddyn.

Mae’r dadansoddiad newydd hefyd yn dangos mai menywod anabl sy’n wynebu’r bwlch cyflog mwyaf.

Fe’u telir ar gyfartaledd 36% yn llai na dynion sydd ddim yn anabl.

Dim ond 53.7% o bobol anabl sydd mewn gwaith o gymharu â 82% o bobol sydd ddim yn anabl.

‘Covid-19 yn gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth’

Rhybuddiodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, fod y bylchau cyflog anabledd yn sicr o gynyddu eto o ganlyniad i Covid-19.

“Mae menywod a dynion anabl yn wynebu gwahaniaethu cynyddol,” meddai.

“Maent yn llawer llai tebygol o gael swydd â thâl na phobol nad ydynt yn anabl – ac mae pobol anabl yn ennill llawer llai.

“Erbyn hyn mae perygl gwirioneddol y bydd Covid-19 yn gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth.

“Mae gweithwyr anabl yn dargedau hawdd i’w diswyddo.”

Mae astudiaethau blaenorol yn dangos mai gweithwyr anabl yw’r cyntaf i golli eu swyddi, a’r olaf i gael eu hail-gyflogi mewn dirwasgiadau.

Ffactorau sy’n achosi’r gwahaniaeth

Ychwanegodd TUC Cymru fod yna amryw o ffactorau gallai fod yn achosi’r gwahaniaethau:

  • Gwaith rhan amser – mae cyfran uwch o bobol anabl yn gweithio’n rhan amser mewn swyddi sydd yn dueddol o fod yn talu llai’r awr na swyddi llawn amser.
  • Cyflog isel – mae pobol anabl yn fwy tebygol o fod mewn swyddi â chyflogau is.
  • Addysg – mae rhai pobol anabl yn gadael addysg yn gynharach na phobol nad ydynt yn anabl.

Mae’r bwlch cyflog hefyd yn gysylltiedig â rhwystrau strwythurol ac agweddau negyddol, meddai TUC Cymru.