Mae Plaid Cymru bellach wedi dewis ei hymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol ar gyfer etholiad Senedd flwyddyn nesa’.
Ar hyn o bryd mae gan y Blaid bum sedd ranbarthol yn y siambr, ac mae’r rhan fwyaf o’r AoSau rheiny ar restrau rhanbarthol 2021.
Mae Delyth Jewell a Llŷr Gruffydd ar frig eu rhestrau ymgeiswyr hwythau, ond mae Helen Mary Jones yn ail i’r cynghorydd sir, Cefin Campbell, yn ei rhanbarth hithau.
Dai Lloyd a Bethan Sayed yw’r ddau AoS Plaid Cymru arall sydd â seddi rhanbarthol ar hyn o bryd, ond fyddan nhw ddim ar y rhestr flwyddyn nesa’.
Mae Bethan Sayed eisoes wedi dweud y bydd hi’n camu o’r neilltu, tra bod Dai Lloyd eisoes wedi dweud na fydd yn sefyll ar y rhestr rhanbarthol.
Mi fydd yn sefyll am sedd etholaeth Gorllewin Abertawe yn unig (sedd saff i Lafur).
Mater sydd yn siŵr o fod yn destun trafod yw’r ffaith bod Sahar al-Faifi yn bedwerydd ar restr ranbarthol Canol De Cymru. Bu’r ymgeisydd ynghlwm â sgandal gwrth-Semitiaeth.
Cafodd y rhestrau eu llunio yn sgil pleidlais ymhlith aelodau. Mae golwg360 yn deall bod problemau technegol wedi amharu ar y broses pleidleisio mewn ambell ardal.
Y rhestrau
Datgelwyd y rhestrau isod o ymgeiswyr i aelodau’r Blaid.
Dwyrain De Cymru
- Delyth Jewell
- Peredur Owen Griffiths
- Lindsay Whittle
- Rhys Mills
Canol De Cymru
- Rhys ab Owen
- Heledd Fychan
- Fflur Elin
- Sahar Al-Faifi
Gorllewin De Cymru
- Luke Fletcher
- Sioned Williams
- John Davies
- Jamie Evans
Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cefin Campbell
- Helen Mary Jones
- Rhys Thomas
- Elwyn Vaughan
Gogledd Cymru
- Llŷr Gruffydd
- Carrie Harper
- Elin Walker Jones
- Owen Hurcum
Adolygiad
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd Liz Saville-Riberts yn cynnal adolygiad i sicrhau fod gan y blaid ymagwedd “dim goddefgarwch” tuag at wrth-Semitiaeth.
Mae Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a Chyngor Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru wedi mynegi pryder fod “gwrth-Semitiaeth yn cael ei goddef ym Mhlaid Cymru”, yn sgil y sgandal am sylwadau Sahar al-Faifi.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wrth BBC Wales:
“Nid yw Plaid Lafur Cymru yn ddiogel rhagddi [gwrth-semitiaeth], nid yw Plaid Cymru yn ddiogel rhagddi.
“Alla i ddim cynnwys fy hun [yn yr adolygiad] am y rhesymau da iawn a nodir yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn achosion disgyblu unigol, ond fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod ein diwylliant, mae ein strwythurau, ein prosesau, wir yn cyflawni dull dim goddefgarwch o ymdrin â gwrth-Semitiaeth ac unrhyw fath arall o ragfarn grefyddol.”
Bydd ymgeiswyr etholiad Plaid Cymru hefyd yn cael hyfforddiant ar fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth, ychwanegodd Mr Price wrth y BBC.