Mae Llafur wedi diarddel Jeremy Corbyn dros dro am ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wrth-Semitiaeth yn y blaid yn ystod ei arweiniad.

Mae’r adroddiad ar yr honiadau o wrth-Semitiaeth wedi dod i’r casgliad y bu’r Blaid Lafur yn “gyfrifol am aflonyddu a rhagfarnu anghyfreithlon”.

Ymateb Jeremy Corbyn i hynny oedd dweud ei bod hi’n briodol bod aelodau Iddewig yn disgwyl i’r blaid ddelio â gwrth-Semitiaeth, a’i fod yn “difaru ei fod wedi cymryd hirach nag y dylai i wireddu’r newid yna.”

Ond, ategodd “y cafodd maint y broblem ei orliwio yn ddramatig er dibenion gwleidyddol gan ein gwrthwynebwyr oddi fewn a thu allan i’r blaid.”

Yn dilyn hyn, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Yng ngoleuni ei sylwadau a wnaed heddiw a’i fethiant i’w tynnu’n ôl wedi hynny, mae’r Blaid Lafur wedi diarddel Jeremy Corbyn tra’n aros am ymchwiliad.

“Mae hefyd wedi colli chwip y Blaid Lafur Seneddol.”

Wrth ymateb i gael ei ddiarddel, dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n herio’n gryf yr “ymyriad gwleidyddol i fy niarddel o’r blaid”.

“Rwyf wedi gwneud yn gwbl glir bod y rhai sy’n gwadu bod problem gwrth-semitiaeth wedi bod yn y Blaid Lafur yn anghywir,” meddai.

“Byddaf yn parhau i gefnogi polisi dim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth.”

Ac mae’r cyn-ganghellor cysgodol, John McDonnell, wedi disgrifio’r penderfyniad i ddiarddel Mr Corbyn fel un “hollol anghywir” ar Twitter.

“Ar y diwrnod y dylem i gyd fod yn symud ymlaen ac yn cymryd pob cam i ymladd yn erbyn gwrth-Semitiaeth, mae atal Jeremy Corbyn yn gwbl anghywir,” meddai.

“Er mwyn undod plaid, gadewch i ni ddod o hyd i ffordd o ddatrys hyn.

“Rwy’n annog holl aelodau’r blaid i aros yn ddigyffro gan mai dyna’r ffordd orau o gefnogi Jeremy a chefnogi’n gilydd. Gadewch i ni gyd alw ar yr arweinyddiaeth i godi’r diarddeliad.”

Yr adroddiad

Yn ogystal â’r casgliad bod y bu’r Blaid Lafur yn “gyfrifol am aflonyddu a rhagfarnu anghyfreithlon,” mae’r adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) hefyd yn tynnu sylw at “fethiannau difrifol” o ran ymgeision arweinyddiaeth y blaid i ddelio â hiliaeth yn erbyn Iddewon.

Yn ystod yr ymchwilad, darganfuwyd tystiolaeth o “ymyrraeth wleidyddol” gan swyddfa’r cyn-arweinydd, Jeremy Corbyn, yn y broses gwynion.

“Wnaeth y Blaid Lafur addo na fydden nhw’n goddef unrhyw wrth-Semitiaeth o gwbl,” meddai Caroline Waters, Cadeirydd dros dro’r EHRC.

“Mae ein hymchwil wedi tynnu sylw at sawl maes lle’r oedd ei gweithgarwch ac arweinyddiaeth wrth fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth yn annigonol.

“Does dim esgus am hyn. Ac mae’n ymddangos mai diffyg awydd i fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth, nid diffyg gallu, oedd wrth wraidd hyn.”

Yn groes i ddeddf

Yn ôl y Comisiwn mae’r blaid wedi mynd yn groes i’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) ar dri chyfrif.

  • Ymyrraeth wleidyddol â chwynion ynghylch gwrth-Semitiaeth
  • Methu a darparu hyfforddiant digonol i’r rheiny sy’n delio â chwynion gwrth-Semitiaeth
  • Aflonyddu

Mae’r blaid wedi cael gwybod bod ganddyn nhw tan Ragfyr 10 i lunio cynllun gweithredu er mwyn rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith.

Ymateb y Blaid Lafur i’r adroddiad

Wrth ymateb i’r casgliadau dywedodd arweinydd presennol y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, bod heddiw yn “ddiwrnod o gywilydd i’r blaid”.

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad yr adroddiad, ac wedi dweud nad oes lle i wrth-Semitiaeth yng Nghymru na Llafur Cymru.

Bydd argymhellion yr EHRC yn cael eu rhoi ar waith ledled y Blaid Lafur, gan gynnwys Llafur Cymru, yn ôl cynrychiolwyr y blaid yng Nghymru.

“Casgliad damniol”

Mae tri sefydliad Iddewig wedi ymateb i’r adroddiad mewn llythyr ar y cyd, ac wedi beirniadu cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn hallt.

Daw’r datganiad oddi wrth y Board of Deputies of British Jews, Jewish Leadership Council, a’r Community Security Trust, ac mae’n croesawu camau cyntaf Keir Starmer.

“Dyma gasgliad damniol ynghylch yr hyn y gwnaeth Llafur i Iddewon o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn a’i gynghreiriaid,” meddai.

“Bydd Jeremy Corbyn yn cael ei feio am yr hyn mae e’ wedi’i wneud i Iddewon ac i Lafur,” meddai wedyn. “Ond mae’r gwirionedd yn fwy brawychus.

“Roedd ef yn arweinydd mewn enw yn unig i agweddau gwrth-Semitaidd hen a newydd. Cafodd hyn oll ei ganiatáu gan y rheiny a anwybyddodd y sefyllfa yn fwriadol.”