Mae JJ Williams, cyn-asgellwr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, wedi marw yn 72 oed.

Roedd yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr gorau Cymru yn ystod cyfnod euraidd y 1970au.

Sgoriodd 12 cais mewn 30 gêm i Gymru ac enillodd Gamp Lawn ym 1976 a 1978, yn ogystal â phedair Coron Driphlyg rhwng 1976 a 1979.

Dywedodd un o’i gyn-glybiau, Pen-y-bont, ar Trydar: “Mae pawb ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn drist iawn o glywed am farwolaeth y cyn-chwaraewr JJ Williams. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau JJ ar yr adeg anodd hon.”

Bu JJ Williams ar daith gyda’r Llewod yn Ne Affrica ym 1974 a Seland Newydd ym 1977.

Sgoriodd chwe chais mewn un gêm yn ystod buddugoliaeth 97-0 dros Ardaloedd y De Orllewin ym 1974, gan ddod yn gyfartal â record David Duckham.

Aeth ymlaen i sgorio pedawar cais yn y gyfres Brawf 3-0 yn erbyn De Affrica – ail chwaraewr y Llewod  i sgorio dau gais ddwywaith mewn gêm brawf.

Sgoriodd gais arall yn ystod y daith i Seland Newydd, ac mae o’n ail i ddim ond Tony O’Reilly o Iwerddon ar geisiau i’r Llewod.

Ar ôl ymddeol, bu’n sylwebu ar gemau rygbi rhyngwladol a domestig ar gyfer BBC Cymru.

Mae Williams yn gadael ei wraig, Jane, a thri o blant, Rhys – cyn-bencampwr Ewropeaidd 400m dros y clwydi – James a Kathryn.

Teyrngedau

Mae’r byd rygbi wedi bod yn talu teyrnged i’r asgellwr.

Disgrifiodd Undeb Rygbi Cymru JJ Williams fel “un o’r asgellwyr gorau i chwarae i Lanelli, Cymru a’r Llewod.”

“Ar ran y tîm cenedlaethol a’r tîm hyfforddi hoffwn dalu teyrnged i JJ Williams, mae ei deulu a’i ffrindiau yn ein meddyliau”, meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

Ychwanegodd y bydd y tîm cenedlaethol yn talu teyrnged iddo yn ystod gêm Cymru yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, Hydref 31.

Mae dydd Sadwrn hefyd yn nodi 48 mlynedd ers i Lanelli guro’r Crysau Duon 9-3 ym Mharc y Strade – roedd JJ Williams yn chwarae yn y gêm enwog honno.

Dywedodd cyn-asgellwr Cymru, Shane Williams, ei fod wedi bod yn bleser dilyn ei ôl troed.

“Mae’n ddrwg gennyf glywed bod JJ Williams wedi marw.

“Mae’n bleser bod wedi rhannu eich crys.”

Dywedodd Craig Quinnell, cyn-chwaraewr ail reng Cymru, sydd yn fab bedydd i JJ Williams, ei fod yn “fentor ac ysbrydoliaeth”.

Un arall sydd wedi talu teyrnged iddo yw Bill Beaumont, cadeirydd Rygbi’r Byd a fu hefyd yn chwarae gyda JJ Williams ar daith y Llewod yn 1977.

“Mae’n drist iawn clywed ein bod wedi colli JJ Williams”, meddai.

“Roedd yn athletwr gwych ac yn chwaraewr rygbi anhygoel.

“Bydd siŵr yn cael ei gofio am sgorio’r cais yn yr ail gêm ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1977, ond roedd hefyd yn gwmni gwych ar y daith.”