Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi gwneud 6 newid i’r tîm fydd yn wynebu’r Alban ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn.
Shane Lewis-Hughes, Liam Williams, Owen Watkin, Gareth Davies, Tomas Francis a Will Rowlands yw’r newidiadau i’r tîm wynebodd Ffrainc y penwythnos diwethaf.
Ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd tîm Cymru dan bwysau ychwanegol ar ôl colli pedair gêm yn olynol – record waethaf Cymru ers 2016.
Cafodd y gêm yng Nghaerdydd ei gohirio ym mis Mawrth oherwydd y coronafeirws.
Cap cyntaf i Shane Lewis-Hughes
Oherwydd anafiadau i Ross Morarty a Josh Navidi cafodd chwaraewr Gleision Caerdydd, Shane Lewis-Hughes, ei alw i’r garfan wythnos diwethaf.
Bydd y chwaraewr rheng ôl ifanc, sydd wedi ei ddisgrifio fel “yr Alun Wyn Jones ifanc” gan Wayne Pivac, yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Albanwyr ddydd Sadwrn.
Bydd yn dechrau fel blaen asgellwr yn lle Aaron Wainwright.
Dim lle i George North yn y garfan
Liam Williams sydd wedi ei ddewis ar yr asgell a hynny ar draul George North sydd wedi ei adael allan o’r garfan yn llwyr.
Gareth Davies sydd yn dechrau fel mewnwr ar ôl i Rhys Webb anafu ei goes.
Lloyd Williams sydd yn cymryd ei le ar y fainc, dydy’r chwaraewr 30 oed heb chwarae i Gymru ers 2016.
Will Rowlands sydd yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng.
Y prop Tomas Francis sydd yn dechrau yn lle Samson Lee a adawodd y cae gydag anaf i’w ben yn erbyn Ffrainc.
Mae’r prop Wyn Jones yn dychwelyd i’r fainc ar ôl anafu ei goes wrth ymarfer cyn gêm Ffrainc.
Fodd bynnag mae Nick Tompkins a anafodd ei goes y penwythnos diwethaf wedi ei ddewis ar y fainc gyda Owen Watkins yn ymuno â Jonathan Davies yn ganol y cae.
Mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit a ennillodd ei gap cyntaf ym Mharis y penwythnos diwethaf heb ei gynnwys ar ôl anafu ei goes.
Carreg filltir i’r capten
Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn torri’r record am y nifer mwyaf o gemau prawf yn hanes y gêm.
Bydd y Cymro 35 oed yn chwarae ei 149fed gêm brawf ddydd Sadwrn gan basio record cyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw.
Tîm Cymru
Olwyr: Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies
Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (C), Shane Lewis-Hughes*, Justin Tipuric, Taulupe Faletau,
Eilyddion: Sam Parry, Wyn Jones, Dillon Lewis, Cory Hill, James Davies, Lloyd Williams, Rhys Patchell, Nick Tompkins
*Cap cyntaf
Tîm yr Alban
Olwyr: Stuart Hogg (C), Darcy Graham, Chris Harris, James Lang, Blair Kinghorn, Finn Russell, Ali Price
Blaenwyr: Rory Sutherland, Fraser Brown, Zander Fagerson, Scott Cummings, Jonny Gray, Jamie Ritchie, Hamish Watson, Blade Thomson
Eilyddion: Stuart McInally, Oli Kebble, Simon Berghan, Ben Toolis, Cornell du Preez, Scott Steele*, Adam Hastings, Duhan van der Merwe
*Cap cyntaf