Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn torri’r record am y nifer mwyaf o gemau prawf yn hanes y gêm pan fydd Cymru yn wynebu’r Alban ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn, Hydref 31.

Bydd y Cymro 35 oed yn ennill cap rhif 149 – 138 cap i Gymru a 9 i’r Llewod – gan basio record cyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw.

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi gwneud 6 newid i’w dîm.

Patagonia

Dechreuodd gyrfa ryngwladol Alun Wyn Jones ym Mhatagonia.

Enillodd Alun Wyn Jones, James Hook, Richard Hibbard ac Ian Evans eu capiau cyntaf yn ystod gêm gyntaf taith Cymru i’r Ariannin yn 2006.

Colli o 27-25 oedd hanes Cymru.

Er y cysylltiadau Cymreig dyma yw’r unig dro i Gymru chwarae ym Mhorth Madryn.

Y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi’r Byd

Mae Alun Wyn Jones wedi ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith gan gynnwys tair Camp Lawn.

Cafodd ei enwi’n chwaraewr Bencampwriaeth yn 2019.

Mae wedi chwarae mewn pedwar Cwpan Rygbi’r Byd ac wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ddwywaith.

Ef hefyd yw’r Cymro i wneud y nifer mwyaf o ymddangosiadau yng Nghwpan y Byd, 21, a’r Chwe Gwlad, 57.

Y Llewod

Mae wedi chwarae ar daith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig i Dde Affrica yn 2009, Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.

Ar y daith fuddugol i Awstralia yn 2013 ef oedd y capten yn y prawf olaf gan fod capten y daith – Cymro arall, Sam Warburton – wedi’i anafu.

Mae Alun Wyn Jones wedi chwarae mwy o gemau prawf i’r Llewod – 9 – nag unrhyw chwaraewr arall sydd dal i chwarae.

Er y bydd Alun Wyn Jones yn agosáu at ei ben-blwydd yn 36 pan fydd y Llewod yn teithio i Dde Affrica’r flwyddyn nesaf, dydy prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, heb ei ddiystyru.

Beth nesaf?

Ers cael ei benodi yn Brif Hyfforddwr Cymru llynedd, mae Wayne Pivac wedi dweud sawl gwaith mai Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn Ffrainc yw ei nod.

Erbyn hynny fydd Alun Wyn Jones yn 38 oed.

Yn ystod seremoni Personoliaeth y Flwyddyn y BBC y llynedd dywedodd Alun Wyn Jones ei fod wedi meddwl am Gwpan Rygbi’r Byd 2023.

“Mae na ddarn ar y BBC yn dweud ‘bron yn sicr ddim’ ond rwy’n credu mai’r unig gysur y gallaf ei gymryd o hynny yw’r gair ‘bron'”, meddai.