Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 fod y clwb “yn cadw eu llygaid ar y bêl” o hyd yn nhermau’r coronafeirws ar drothwy’r gêm yn erbyn Blackburn ddydd Sadwrn (Hydref 31).

Mae Blackburn ymhlith y trefi sydd â’r cyfraddau coronafeirws uchaf yng ngwledydd Prydain ac sydd hefyd wedi bod yn destun cyfyngiadau rhanbarthol.

Mae trafodaethau ar y gweill i benderfynu a ddylai Lloegr gyflwyno cyfnod clo cenedlaethol, fel Cymru, wrth i’r cyfraddau godi mewn sawl ardal.

Effaith ar bêl-droed

Ond yn ôl Steve Cooper, rheolwr yr Elyrch, ddylai’r byd pêl-droed ddim cael ei effeithio’n ormodol gan fod y clybiau’n gorfod aros mewn swigen wrth baratoi ar gyfer gemau.

“Rydyn ni’n aros yn ein swigen felly, yn amlwg, wrth fod ar y cae ymarfer neu yn y Liberty, mae’n eitha’ hawdd oherwydd mae parthau coch lle mai dim ond pobol gysylltiedig sydd wedi cael eu profi neu eu hachredu sy’n cael mynd i mewn,” meddai wrth golwg360.

“Wrth adael, rydyn ni’n neidio ar y bws sydd ond ar gael i’r staff.

“Mae’r broses honno’n parhau mewn gwestai rydyn ni’n aros ynddyn nhw a stadiymau.

“Am wn i, y syniad yw lleihau’r cyswllt ag unrhyw un y tu allan i’r swigen.

“Yn nhermau dal y feirws, dw i’n credu bod mwy o debygolrwydd o wneud hynny wrth wneud pethau pob dydd – mewn archfarchnadoedd neu’r orsaf betrol, fel dw i wedi’i ddweud o’r blaen.

“Gallwn ni baratoi gymaint â phosib yn nhermau dilyn gweithdrefnau ond gallen ni fod yn anlwcus o hyd drwy ddal y feirws heb yn wybod i ni.

“Dydyn ni ddim yn wahanol i unrhyw un arall, a ddylen ni ddim ystyried ein hunain yn wahanol.

“Mae’n rhaid i ni gadw at ein gweithdrefnau a gobeithio bod hynny’n lleihau’r risg gymaint â phosib.”

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Yn ôl Steve Cooper, mae addysg ynghylch y feirws a’r gefnogaeth gorfforol a meddyliol sydd ar gael yn y byd pêl-droed yn bwysig o hyd, saith mis ers i wledydd Prydain ddechrau ar y cyfnod clo cyntaf.

“Mae [y gefnogaeth] yn dal yno,” meddai.

“Mae yna gefnogaeth feddyliol ac ymwybyddiaeth o’r feirws, ac mae’r staff meddygol yn rhoi diweddariadau cyson o ran lle mae’r wlad arni, lle mae’r byd pêl-droed arni.

“Ond dw i’n credu ei fod e bellach yn fater o gynnal a chadw, a pharhau i atgoffa’n hunain o hyd.

“Aethon ni drwy’r cyfnod clo yna fel gwlad ac fe wnaethon ni roi pethau ar waith, boed yn y cartref neu yn y gwaith.

“Nawr mae angen peidio â thynnu eich llygaid oddi ar y bêl a pheidio â gwneud unrhyw beth all achosi mwy o risg.

“I fi, mae’n fater o addysgu a monitro, a dyna rydyn ni’n ceisio ei wneud gorau gallwn ni.”