Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi egluro ei ddewis i adael George North allan o’i garfan ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, Hydref 31.
Mae’n un o’r chwech newid i’r tîm gollodd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc penwythnos diwethaf.
“Dydy George heb fod ar ei orau ers chwarae yn erbyn Lloegr [fis Mawrth], a dyna’r gorau rydym wedi ei weld yn chwarae ers amser hir”, meddai Wayne Pivac.
“Cafodd gyfle’r penwythnos diwethaf, ac er bod rhai wedi cwestiynu a ddylem ni fod wedi ei ryddhau yn ôl i’w glwb, cafodd chwarae.
“Ond doedd ddim mor sydyn ag arfer a ddim yn canolbwyntio cymaint ag arfer – mae’n cydnabod hynny ei hun.
“George oedd y cyntaf i godi ei law a dweud nad oedd yn hapus gyda’i berfformiad.
“Oedd hi’n benderfyniad anodd ei adael allan o’r tîm? Na, doedd hi ddim.”
Enillodd George North cap rhif 99 yn erbyn Ffrainc, ond bydd rhaid iddo aros eto nes cyrraedd cant o gapiau rhyngwladol.
‘Ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro’
“Dydych chi ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro”, meddai Wayne Pivac wrth fyfyrio ar ei benderfyniad i gynnwys George North yn y tîm i wynebu Ffrainc.
“Mae’n anffodus fod y cerdyn coch wedi ei gadw allan o rygbi am ychydig fisoedd.
“Roedd hi’n ddewis hawdd i ddweud y gwir, cefais sgwrs dda gyda George cyn i ni gyhoeddi’r tîm.
“Byddwn yn gwneud mwy o waith gydag ef i sicrhau ei fod yn dda ym mhob un maes ar y cae ac ar yr ochr feddyliol o’r gêm.”
Liam Williams sydd wedi ei ddewis ar yr asgell yn lle George North.
Ychwanegodd Wayne Pivac fod yr amser i ffwrdd o’r gêm yn ystod y cyfyngiadau wedi effeithio pob chwaraewr yn wahanol ac y byddai’n cymryd amser iddyn nhw gyrraedd yr un safon eto.