Mae George North wedi bod yn trafod dod yn dad yn ystod y clo, y posibilrwydd o gyrraedd cant o gapiau a’r gystadleuaeth sydd o fewn y garfan.
Ers i gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei gohirio fis Mawrth, mae’r asgellwr wedi profi sawl tro ar fyd.
I leihau ymlediad y coronafeirws yn ystod gêmau’r hydref, mae carfan Cymru wedi creu swigen yng ngwesty’r tîm, ac wedi bod yn byw i ffwrdd o’u teuluoedd.
Ond cyn hynny, roedd George North wrth ei fodd gartref gyda’i deulu newydd.
“Mae wedi bod yn anhygoel i fod adref efo Becky ers i Jac gael ei eni,” meddai.
“Dros y deng mlynedd diwethaf, mae bob dim wedi bod amdanaf i, a beth sydd rhaid i mi ei wneud i fod yn barod ar gyfer gemau – ond mae fy mlaenoriaethau wedi newid dros nos.
“Wrth gwrs mi oedd hi’n wych cael yr amser gwerthfawr yna hefo Becky a Jac ar ddechrau’r clo ond os rhywbeth, mae o wedi gwneud yr amser yma i ffwrdd oddi wrthyn nhw hyd yn oed yn fwy anodd.
“Dyma’r cyfnod hiraf i mi fod i ffwrdd o adref ers geni Jac.”
Bydd Cymru yn cychwyn rhediad prysur o gemau heno (nos Sadwrn, Hydref 24) ym Mharis – y gêm rygbi ryngwladol gyntaf i Gymru ei chwarae ers saith mis.
Ar drothwy cant o gapiau
Bydd George North yn chwarae gêm brawf rhif 99 ei yrfa nos Sadwrn – hyd yma mae ganddo 95 o gapiau dros Gymru a thri dros y Llewod.
Gallai’r asgellwr gyrraedd cant o gapiau rhyngwladol yn ystod gemau’r hydref.
Yn 28 mlwydd oed, ef hefyd fyddai’r person ieuengaf yn hanes y gêm i gyrraedd y garreg filltir.
“Un o fy nhargedau mwyaf yw cael 100 o gapiau dros fy ngwlad,” meddai.
“Mae’n siŵr pan ddechreuais fy ngyrfa y byddai cael un cap wedi bod yn ddigon i mi, byswn i wedi siarad am hynny am weddill fy mywyd.
“Wrth gwrs dw i’n gobeithio cyrraedd y garreg filltir yma, ond ar hyn o bryd, dw i ond yn canolbwyntio ar y gêm ddydd Sadwrn.”
Rees-Zammit yn cynnal y safon
Mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit, sydd newydd gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Gallagher Premiership yn Lloegr, wedi ei gynnwys ar y fainc am y tro cyntaf.
“Mae Zammit wedi bod yn chwarae yn arbennig o dda,” meddai George North.
“Wrth edrych ar yr olwyr sydd gynnon ni ar hyn o bryd, mae Zam yn rhoi pwysau ar y cefnwyr i gyd, boed hynny arnaf i, Josh, Liam a Halfpenny – ac mae cystadleuaeth yn beth da er mwyn cynnal y safon.
“Ei gap cyntaf ddydd Sadwrn fydd y [cap] cyntaf o lawer, dw i’n siŵr.”
Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, wedi cadarnhau y bydd Louis Rees-Zammit, sydd wedi ei ddewis ar y fainc, yn chwarae rhyw ran yn y gêm nos Sadwrn, ac y bydd George North yn symud i ganol y cae i wneud lle iddo.
“Mae George [North] yn ffit iawn ar hyn o bryd a dw i’n meddwl y bydd yn para 80 munud,” meddai Wayne Pivac.
“Tra efallai na fydd Jonathan [Davies] yn medru para’r gêm gyfan, efallai y bydd George yn symud i ganol cae pan ddaw Louis ymlaen.”
Bu Wayne Pivac yn egluro rhai o’i ddewisiadau mewn cynhadledd i’r wasg gafodd ei chynnal dros y we.
Tîm Cymru
Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn chwarae gêm brawf rhif 148 ei yrfa ac yn dod yn gyfartal â chyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw.
Mae’n bosib y gallai’r Cymro 35 oed dorri’r record yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets y penwythnos nesaf.
Mae dau enw newydd ar y fainc, y bachwr Sam Parry a’r asgellwr Louis Rees-Zammit.
Yn absenoldeb Ken Owens, sydd allan am hyd at bedwar mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd, Ryan Elias sydd yn dechrau fel bachwr.
Olwyr: Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Rhys Webb
Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Sam Parry*, Nicky Smith, Dillon Lewis, Seb Davies, James Davies, Gareth Davies, Rhys Patchell, Louis Rees-Zammit*
*Cap cyntaf
Tîm Ffrainc
Er y pryderon na fyddai clybiau’r Top 14 yn rhyddhau chwaraewyr ar gyfer y gêm gyfeillgar, mae Ffrainc wedi dewis carfan brofiadol.
Dim ond un newid sydd i’r tîm enillodd yng Nghaerdydd fis Chwefror.
Mae Vincent Rattez yn dychwelyd i’r asgell, a Gael Fickou yn symud yn ôl i ganol cae.
Olwyr: Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Vrimi Vakatawa, Gael Fickou, Vincent Rattez; Romain Ntamack, Antoine Dupont
Blaenwyr: Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Bernard Le Roux, Damien Willemse, François Cros, Charles Ollivon (capten), Gregory Aldritt
Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Arthur Vincent, Thomas Ramos