Mae Chris Cooke, capten tîm criced Morgannwg, wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan y clwb yn eu gwobrau blynyddol.

Cafodd y gwobrau eu cynnal ar y we eleni dan arweiniad y sylwebydd rygbi Phil Steele.

Daw’r wobr i Cooke, sy’n enedigol o Dde Affrica, ar ddiwedd tymor byr o griced yn sgil y coronafeirws.

Sgoriodd e gyfanswm o 515 o rediadau mewn dwy gystadleuaeth – Tlws Bob Willis, y gystadleuaeth pedwar diwrnod, a chystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Tarodd e bum hanner canred.

Yn sgil ei gyfraniad gyda’r bat, sgoriodd e 181 o bwyntiau yn nhabl y Chwaraewyr Mwyaf Gwerthfawr, ac fe wnaeth e orffen ar frig y tabl maesu gyda 52 o bwyntiau.

Cafodd ei enwi’n ddiweddar yn Nhîm y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Gwobrau eraill

Cafodd sawl gwobr eu cyflwyno yn ystod y seremoni fer.

Aeth gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, yn enw’r diweddar brif hyfforddwr John Derrick, i’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, ar ôl iddo fe gipio deg wiced ar gyfartaledd o ryw 23 mewn gemau ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Cafodd Callum Taylor, y chwaraewr amryddawn o Went, ei enwi’n Ffeffryn y Ffans, ac yntau wedi sgorio’i ganred cyntaf yn ei gêm pedwar diwrnod gyntaf yn erbyn Swydd Northampton.

Morgan Bevans enillodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Gorau’r Academi am ei orchestion gyda’r bat, ac yntau wedi sgorio 112 yn erbyn tîm dan 18 Swydd Gaerloyw.

Cafodd Michael Hogan ei wobrwyo am ei 600fed wiced dosbarth cyntaf yn y gêm yn erbyn Swydd Northampton yn Nhlws Bob Willis.