Cipiodd y bowliwr cyflym Michael Hogan 600fed wiced ei yrfa ddosbarth cyntaf wrth i Forgannwg golli ar ddiwrnod ola’r gêm yn erbyn Swydd Northampton yn Nhlws Bob Willis yn Northampton heddiw (dydd Mawrth, Awst 25).

Roedd angen un wiced arno cyn y gêm i gyrraedd y garreg filltir, ond roedd e’n waglaw yn y batiad cyntaf.

Daeth y wiced fawr pan gafodd Luke Procter ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke toc cyn i’r tîm cartref ennill yr ornest o chwe wiced.

Dyma’i wiced rhif 376 i Forgannwg, ac fe gipiodd e 224 i Orllewin Awstralia – 126 ohonyn nhw ar gae rhyngwladol y WACA yn Perth.

Yng Nghaerdydd mae e wedi cipio rhan fwya’r wicedi i Forgannwg – 136 ar gyfartaledd o 22.47 yr un, ac mae e wedi cipio pum wiced mewn batiad chwe gwaith, a deg wiced mewn gêm unwaith yn 2014, yn erbyn Swydd Caint, y tîm mae e wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi yn eu herbyn (53), tra ei fod e hefyd wedi cipio 52 yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Manylion y gêm

Ar ôl gwahodd Morgannwg i fatio, fe wnaeth Swydd Northampton gyfyngu’r sir Gymreig i 135 am naw cyn i Callum Taylor a Michael Hogan adeiladu partneriaeth wiced olaf o 124 wrth i Taylor o Gasnewydd daro canred yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Wrth ymateb i 259 Morgannwg, tarodd Charlie Thurston 115 a Ben Curran 82 i’r tîm cartref wrth iddyn nhw sgorio 332 i sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf fach.

Ond roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn eu hail fatiad cyn i Marchant de Lange daro 113 a Dan Douthwaite mewn record o bartneriaeth o 168 ar gyfer y nawfed wiced – ac fe wnaeth de Lange dorri’r record am y sgôr gorau erioed gan fatiwr rhif deg i’r sir.

Ond roedd wyth wiced yn y gêm i Jack White yn ddigon i roi Morgannwg dan bwysau, wrth iddyn nhw osod nod o 189 i’r Saeson i ennill y gêm.

Cwrso

Ar ôl glaw trwm am rannau o’r diwrnod olaf, ailddechreuodd Swydd Northampton gwrso’r nod ar 62 am un ar y diwrnod olaf.

Roedden nhw’n 115 am un erbyn amser te, gyda Charlie Thurston ac Emilio Gay wrth y llain.

Sgoriodd Gay ei hanner canred cyntaf i’r sir yn ei bedwaredd gêm, a’r garreg filltir yn dod oddi ar 104 o belenni.

Ond wrth yrru yn erbyn Dan Douthwaite, cafodd Thurston ei daro ar ei goes i ddod â’i fatiad i ben, a’r sgôr yn 133 am ddwy.

Daeth wiced fawr Michael Hogan nesaf, cyn i Rob Keogh gael ei redeg allan wrth oedi cyn ceisio rhedeg sengl.

Ond fe wnaeth Gay (77 heb fod allan) a’r capten Ricardo Vasconcelos sichrau buddugoliaeth gynta’r Saeson yn y gystadleuaeth i anfon Morgannwg adre’n waglaw.