Mae Harry Maguire, capten tîm pêl-droed Manchester United, wedi’i gael yn euog o fod â rhan mewn ffrwgwd ar ynys Roegaidd Mykonos.
Cafodd y chwaraewr 27 oed ei arestio ynghyd â dau ddyn arall – ei frawd Joe a’u ffrind Christopher Sharman – yn dilyn ffrwgwd â’r heddlu.
Roedden nhw wedi bod yn gwadu achosi niwed corfforol yn erbyn swyddogion cyhoeddus, ceisio llwgrwobrwyo a sarhau.
Clywodd y llys fod y ffrwgwd wedi dechrau ar ôl i griw o ddynion o Albania chwistrellu Daisy, chwaer Harry Maguire, yn ei braich, a chafodd hi ei tharo’n anymwybodol.
Fe wnaeth y tri dyn alw am gymorth i gael mynd i’r ysbyty, ond fe gawson nhw eu cludo i ddalfa’r heddlu.
Roedd yr erlynwyr wedi dadlau bod y tri wedi ymosod ar yr heddlu’n gorfforol ac yn eiriol.
Mae wedi’i ddeddfrydu i 21 mis a deg diwrnod o garchar, wedi’i ohirio am dair blynedd am nad oedd e wedi bod mewn trafferth o’r blaen.