Mae Jimmy Anderson wedi creu hanes drwy fod y bowliwr cyflym cyntaf erioed i gipio 600 o wicedi mewn gemau prawf.
Dim ond tri arall sydd wedi cyrraedd y garreg filltir honno – y troellwyr Anil Kumble o India, Muttiah Muralitharan o Sri Lanca a Shane Warne o Awstralia.
Daeth y wiced fawr pan waredodd e Azhar Ali, wedi’i ddal gan Joe Root, ar noson ola’r trydydd prawf yn erbyn Pacistan yn Southampton.
Mae’r bowliwr cyflym 38 oed wedi bod yn chwarae ers 17 o flynyddoedd, ac mae e wedi chwarae mewn 156 o gemau prawf.
Daeth ei wiced gyntaf – Mark Vermeulen o Zimbabwe – yn ei gêm gyntaf dros Loegr yn Lord’s yn 2003.
Yn 2015, aeth e’r tu hwnt i gyfanswm wicedi Ian Botham (383) wrth dorri’r record genedlaethol, gan gyrraedd 400 yr un flwyddyn, a 500 yn 2017.
Mae Pacistan yn brwydro am gêm gyfartal.