Fydd “dim triniaeth arbennig” i Gareth Bale yng ngharfan Cymru, yn ôl y rheolwr Ryan Giggs, sy’n dweud ei bod hi’n annhebygol y bydd yr ymosodwr yn chwarae yn y ddwy gêm.

Bydd Cymru’n teithio i herio’r Ffindir ar Fedi 3 cyn croesawu Bwlgaria i Gaerdydd dridiau’n ddiweddarach.

Daw’r cyfnod rhyngwladol ar adeg pan nad yw Gareth Bale wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i Real Madrid a phan fo’i ddyfodol gyda’r clwb yn y fantol.

Chwaraeodd e am 48 munud dros 12 gêm ym mis Mehefin, ac fe gafodd ei gyhuddo o beidio â bod eisiau chwarae yn y gêm yn erbyn Manchester City yng Nghynghrair y Pencampwyr.

“Ers i fi gymryd drosodd, mae e wedi bod yn chwarae yn Real Madrid a dw i wedi ei ddewis e, ond hefyd dydy e ddim wedi bod yn chwarae’n rheolaidd a dw i wedi’i ddewis e,” meddai Ryan Giggs.

“Mae Gareth yn chwaraewr arbennig.

“Mae e’n rhywun all wneud gwahaniaeth.

“Mae e mor broffesiynol fel bod rhai chwaraewyr yn troi i fyny heb fod wedi chwarae ers pedair, pum neu chwe wythnos ac mae’n amlwg i chi.

“Wrth gwrs, dydy e ddim bob amser yn siarp, ond mae e bob amser yn edrych yn dda wrth ymarfer, dydy ei gorffolaeth fyth yn newid ac mae e bob amser yn edrych yr un fath, mae ei feddylfryd yn gryf ac mae e bob amser eisiau chwarae pob gêm.

“Mater i fi fesur yw hynny.

“Efallai os daw’r gemau mewn cyfnod byr, er enghraifft mae’n bosib fydd gyda ni dair gêm ym mis Hydref a mis Tachwedd, bydd rhaid i fi reoli hynny mewn ffordd wahanol ond fe af fi i’r afael â hynny pan ddaw.

“Mae Gareth yn gofalu amdano fe ei hun, ond does dim triniaeth arbennig i neb.

“Bydda i’n edrych ar bob achos yn unigol.”