Mae Jordi Osei-Tutu wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd ar fenthyg o Arsenal am dymor.

Ymunodd y cefnwr de ymosodol 21 oed ag Academi Arsenal yn 2015, cyn symud i Bochum yn Ail Adran yr Almaen y tymor diwethaf, lle sgoriodd e bum gôl a chynorthwyo tair arall mewn 21 o gemau.

Mae’n dilyn Kieffer Moore, ymosodwr Cymru, i Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Des i yma oherwydd ei fod e’n glwb mawr sy’n rhoi llwyfan mawr i fi,” meddai.

“Dw i am ddiolch i’r rheolwr am gredu ynof fi wrth ddod â fi i glwb mor ryfeddol, a’r cyfan dw i eisiau ei wneud yw ei ad-dalu fe.

“Fe wna i hynny drwy ddangos beth alla i ei wneud, a helpu’r tîm i ennill gemau a gobeithio gwthio am ddyrchafiad.

“Mae gyda fi wybodaeth dda am chwarae o gwmpas y cae, ond cefnwr de yw fy safle i.

“Dw i’n hoffi mynd i fyny ac i lawr y cae, yn ymosod ac yn amddiffyn.

“Alla i ddim aros i gael dechrau.”