Bydd modd i holl gefnogwyr Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ffrydio gemau’n fyw pan fydd y tymor newydd yn dechrau, yn dilyn cytundeb rhwng y Gynghrair Bêl-droed a Sky Sports.
Bydd y cytundeb yn ei le tan y bydd modd i gefnogwyr fynd i gemau eto ar ôl i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio.
Bydd modd i ddeiliaid tocynnau tymor yr holl glybiau ffrydio gemau cynghrair cartref yn ddibynnol ar drefniadau’r clybiau unigol, tra bydd modd i gefnogwyr timau’r Bencampwriaeth hefyd wylio gemau oddi cartref yng nghanol yr wythnos.
Bydd rhaid i gefnogwyr timau’r Bencampwriaeth sy’n chwarae ar y penwythnos a chefnogwyr timau’r Adran Gyntaf a’r Ail Adran sy’n chwarae oddi cartref ar y penwythnos neu yng nghanol yr wythnos brynu tocyn gêm am £10.
Bydd y drefn yn cael ei hadolygu ym mis Hydref pan fo disgwyl i rai cefnogwyr allu dychwelyd i’r caeau i wylio gemau gan gadw pellter cymdeithasol.
Yr unig gemau na fyddan nhw’n rhan o’r cytundeb newydd hwn yw’r 130 o gemau ar draws yr holl adrannau sy’n cael eu darlledu’n fyw ar Sky Sports beth bynnag.
Bydd modd i gefnogwyr hefyd brynu tocyn £10 i wylio darllediad byw o unrhyw gemau yn rownd gyntaf Cwpan Carabao nad yw’n cael ei darlledu’n fyw ar y teledu, gyda thrafodaethau ar y gweill ar gyfer rowndiau dau i bedwar, pan fydd timau’r Uwch Gynghrair yn ymuno â’r gystadleuaeth.
Ar hyn o bryd, fydd dim modd gwylio rhai o gemau’r Uwch Gynghrair ym mis Medi, ond mae cefnogwyr wedi lleisio eu barn am hyn gan ddweud bod y sefyllfa’n “warthus”.