Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y bydd angen llawdriniaeth ar Tomos Williams ar ôl iddo fe ddioddef anaf i’w ysgwydd y penwythnos diwethaf.

Cafodd y mewnwr, sydd wedi ennill 20 o gapiau dros Gymru, ei anafu yn ystod ail hanner y gêm ym Mharc y Scarlets, a hynny ar ôl i’w wrthwynebydd yng nghrys y Scarlets, Gareth Davies, adael y cae yn ystod yr hanner cyntaf.

Aeth y Gleision yn eu blaenau i golli 32-12 yn erbyn y Scarlets.