Roedd y Scarlets ar ei hôl hi neithiwr (nos Wener, Hydref 23) cyn taro’n ôl i guro Benetton oddi cartref o 10-3 yn y PRO14.

Ciciodd Ian Keatley, maswr yr Eidalwyr, unig bwyntiau’r hanner cyntaf cyn i Angus O’Brien daro’n ôl i’w gwneud hi’n 3-3.

Croesodd Paul Asquith am unig gais y gêm, a gafodd ei drosi gan O’Brien.

Ond aeth y Scarlets i lawr i 14 dyn cyn diwedd yr ornest, wrth i Morgan Jones gael ei anfon o’r cae am dacl uchel.