Fe fydd timau pêl-droed Abertawe a Bristol City yn gobeithio gwella ar eu perfformiadau a’u canlyniadau diwethaf wrth iddyn nhw gyfarfod yn Ashton Gate yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 24).

Tra bo’r Elyrch wedi cipio pwynt yn erbyn Coventry, ond colli yn erbyn Middlesbrough oedd hanes Bristol City.

Mae’n golygu bod yr Elyrch yn bumed, ddau bwynt yn unig y tu ôl i’w gwrthwynebwyr sy’n ail yn y tabl.

Dim ond unwaith mae’r Elyrch wedi ennill yn Ashton Gate ers 27 o flynyddoedd.

Anafiadau

Dydy Kasey Palmer ddim ar gael i’r Elyrch gan ei fod e ar fenthyg o Bristol City.

Mae Morgan Gibbs-White allan am dri mis ag anaf.

Fydd George Byers ddim ar gael i chwarae yn ei gêm gynta’r tymor hwn chwaith, er ei fod e’n parhau i wella o anaf i’w goes.

Mae disgwyl i Dan Bentley, golwr Bristol City, ddychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anaf.

Mae Tomas Kalas hefyd yn gobeithio dychwelyd i ganol yr amddiffyn wrth i Alfie Mawson, cyn-amddiffynnwr Abertawe, golli allan oherwydd anaf i’w benglin.