Fydd y cefnwr Greg Cunningham ddim ar gael i dîm pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw groesawu eu cyn-reolwr Neil Warnock a thîm Middlesbrough i Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 24).

Doedd Cunningham ddim ar gael ganol yr wythnos ar gyfer y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Bournemouth, wrth iddo fe barhau i wella o anaf i linyn y gâr.

Fe fydd Jordi Osei-Tutu a Joe Bennett yn parhau i gael eu monitro yn sgil anafiadau.

Mae amheuon o hyd am ffitrwydd capten Middlesbourgh, Britt Assombalonga ar ôl iddo fe golli’r gêm ganol wythnos yn erbyn Bristol City.

Mae Ashley Fletcher allan ag anaf i linyn y gâr tan ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Mae’r amddiffynnwr Grant Hall yn parhau i wella o anaf i’w goes.