Mae Iwerddon yn croesawu’r Eidal i Ddulyn heddiw wrth i gêm olaf y bedwaredd rownd o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei chwblhau 230 o ddiwrnodau ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei gohirio o ganlyniad i’r coronafeirws.
Bydd y gemau olaf yn cael eu cynnal y penwythnos nesaf, wrth i Gymru groesawu’r Alban, tra bydd Lloegr yn teithio i’r Eidal a Ffrainc yn croesawu Iwerddon (Hydref 31).
Gall Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon ennill y Bencampwriaeth o hyd, tra bod yr Alban yn dibynnu ar ganlyniadau eraill i fynd o’u plaid.
Gobeithion y timau
Cymru
Tra bod Cymru wedi ennill y gystadleuaeth yn nhymor olaf Warren Gatland wrth y llyw y llynedd, mae tîm Wayne Pivac yn debygol o orffen yn bumed eleni.
Dechreuon nhw’n gadarn gyda buddugoliaeth swmpus o 42-0 dros yr Eidal, ond fe gollon nhw wedyn yn erbyn Iwerddon, Ffrainc a Lloegr, gan ildio dim ond 17 o bwyntiau yn y tair gêm.
Ond byddai buddugoliaeth yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets yn ddechrau da i’r tîm wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Lloegr
Lloegr yw’r ffefrynnau i godi’r tlws ar hyn o bryd, er iddyn nhw ddechrau’r gystadleuaeth gyda cholled yn erbyn Ffrainc.
Maen nhw ar y brig ar hyn o bryd, gyda gwahaniaeth pwyntiau o 13 rhyngddyn nhw a Ffrainc, ac mae disgwyl iddyn nhw guro’r Eidal yn sylweddol i gipio pwyntiau llawn.
Byddai Ffrainc dan bwysau yn erbyn Iwerddon wedyn.
Dydy Lloegr ddim wedi ennill y teitl ers 2017.
Ffrainc
Mae Ffrainc wedi gwella o dan arweiniad y prif hyfforddwr Fabien Galthie, gan guro Lloegr a Chymru ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Ond roedd y golled yn erbyn yr Alban yn eu gêm ddiwethaf yn ergyd, a bydd angen pwyntiau llawn wrth guro Iwerddon i gadw eu gobeithion yn fyw ond hyd yn oed wedyn, byddan nhw’n dibynnu ar Loegr i golli, cael gêm gyfartal neu ennill heb bwyntiau llawn yn yr Eidal.
Ond mae Lloegr yn ddi-guro yn erbyn yr Eidalwyr mewn 26 o gemau, gan sgorio dros 1,000 o bwyntiau.
Yr Eidal
Fe fu’n gystadleuaeth siomedig i’r Eidal eto eleni, ar ôl colli pob gêm hyd yn hyn.
Y disgwyl yw y byddan nhw’n gorffen ar waelod y tabl am y pymthegfed tro, a’r pumed tro yn olynol i dorri record newydd.
Yn sgil eu perfformiadau, fe fu rhai yn galw am weddnewid y gystadleuaeth er mwyn dyrchafu a gostwng timau ar sail eu canlyniadau.
Yr Alban
Dydy’r Alban erioed wedi ennill y Chwe Gwlad, ond maen nhw’n drydydd ar hyn o bryd y tu ôl i Loegr a Ffrainc.
Dydy’r Alban ddim wedi ennill yng Nghymru ers 18 mlynedd, ond bydd angen pwyntiau llawn y tro hwn os ydyn nhw am fod â llygedyn o obaith ar y penwythnos olaf.
Byddai angen wedyn i Loegr, Ffrainc ac Iwerddon golli.
Iwerddon
Mae Iwerddon yn bedwerydd ar hyn o bryd, ond byddan nhw’n bencampwyr pe baen nhw’n curo’r Eidal a Ffrainc gyda phwyntiau llawn.
Ond tair gwaith yn unig mewn deg gêm maen nhw wedi ennill ym mhrifddinas Ffrainc.
Mewn gwirionedd, mae’n debygol mai yn yr ail safle y bydd Iwerddon neu Ffrainc yn gorffen.