Roedd penderfyniad y dyfarnwr Oliver Langford i roi cic o’r smotyn i’r tîm cartref yn bwnc llosg yn Ashton Gate wrth i Abertawe a Bristol City orffen yn gyfartal 1-1.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 50 munud wrth i Jamal Lowe daro chwip o ergyd o ongl lydan oddi ar bàs gan Connor Roberts.

Ac roedden nhw’n edrych yn gyfforddus yn y cyfnod cyn i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn i Bristol City ar ôl penderfynu bod Antoine Semenyo wedi cael ei lorio gan Roberts.

Ond mae’n ymddangos bod Roberts wedi baglu yn ymyl yr ymosodwr ac nad oedd yn drosedd oedd yn deilwng o gael ei chosbi.

Rhwydodd yr eilydd Nahki Wells o’r smotyn ar ôl 82 munud i gipio pwynt yn erbyn y llif.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Bristol City yn codi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth, tra bo’r Elyrch yn chweched.

Y penderfyniad dadleuol

Ar ôl y gêm, roedd hi’n ymddangos fel pe bai Steve Cooper, rheolwr Abertawe, yn ei chael hi’n anodd brathu ei dafod.

“Mae’r bois yn siomedig iawn gyda phwynt oherwydd natur y gôl i ddod â nhw’n gyfartal a’r penderfyniad o ran y gic o’r smotyn,” meddai.

“Ro’n i’n credu ei bod hi’n gêm iawn, a bod yn deg.

“Ro’n i’n hoffi ein perfformiad ni wrth ddod oddi cartref a cheisio bod mor bositif ag yr oedden ni, wrth symud cyrff i fyny pan oedden ni’n gallu.

“Fe wnaethon ni gynnydd, gyda Jamal [Lowe] yn gorffen yn wych, ac roedden ni’n edrych yn sefydlog iawn yn y gêm.

“Os rhywbeth, ro’n i’n meddwl ein bod ni am ennill y gêm gyda gôl arall a chau’r gêm allan.

“Ond gyda phenderfyniad yn cael ei wneud fel yna, mae’n anodd cau ‘ngheg a bod yn onest.

“Roedden ni wedi siarad am y dyfarnwr yn y paratoadau cyn y gêm, ac fe ddigwyddodd e.

“O wneud y penderfyniad yna, does dim byd y gallwch chi ei hyfforddi na’i ddweud i wneud hynny’n well wrth baratoi, cyn neu ar ôl [y gêm].

“Mae’r gynghrair yma mor galed i ennill pwyntiau, felly mae wynebu penderfyniad o’r fath yna pan oedden ni mor gyfforddus yn y gêm yn anodd i’w dderbyn, a bod yn onest.

“Roedden ni ar y blaen o 1-0 ac roedd cryn amser ar ôl yn y gêm.

“Cawson nhw gyfle da o chwarae gosod yn gynnar a sawl ergyd o lefydd lle’r o’n i’n meddwl y bydden nhw’n ein niweidio ni.

“Ar wahân i hynny, do’n i ddim yn meddwl eu bod nhw’n mynd i sgorio.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n edrych yn gyfforddus iawn, ac i amddiffyn yn y fath fodd a chael ein cosbi fel yna, mae’n anodd i’w dderbyn.

“Ond fe fydd yn ein gwneud ni’n gryfach, dydyn ni ddim am feddwl yn ormodol am y peth, ond wrth siarad yn syth ar ôl y gêm, mae’n anodd edrych y tu hwnt i hynny.”