Cipiodd Neil Warnock bwynt yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth ddychwelyd yno â Middlesbrough yn y Bencampwriaeth.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal 1-1.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy George Saville ar ôl 36 munud, wrth iddo sgorio o gic gornel, ac roedden nhw’n edrych yn gyfforddus.

Ond fe wnaeth Sheyi Ojo unioni’r sgôr gyda gôl o’r cwrt cosbi ar ôl 70 munud.

Cafodd yr Adar Gleision sawl cyfle yn hwyr yn y gêm, wrth i Ojo, Harry Wilson a Kieffer Moore gael cyfleoedd ond arhosodd amddiffyn Warnock yn gryf i fynd adref â phwynt yn erbyn ei hen glwb.