Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi codi i frig yr Ail Adran ar ôl ennill o 3-0 yn Bradford.
Dyma’u chweched buddugoliaeth mewn wyth gêm a’u dechreuad gorau erioed i unrhyw dymor.
Aethon nhw ar y blaen ar ôl 45 eiliad oddi ar dafliad hir o’r asgell chwith, wrth i Scott Twine bwyso ar yr amddiffyn a tharo’r bêl i mewn i’r cwrt cosbi, lle’r oedd Mickey Demetriou yn aros amdani i’w tharo hi’n isel i’r rhwyd.
Daeth Bradford yn agos gyda sawl ergyd yn ystod yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth yr Alltudion ymestyn eu mantais funud cyn yr egwyl wrth i Padraig Amond sgorio â’i droed dde ddwy funud yn unig ar ôl dod i’r cae yn eilydd.
Cafodd Bradford gyfle i sgorio drwy Anthony O’Connor yn yr ail hanner cyn i Liam Shephard a Tristan Abrahams ddod yn agos i Gasnewydd.
Daeth eu trydedd gôl yn y pen draw, wrth i Matty Dolan, cyn-chwaraewr Bradford, sgorio o’r smotyn ar ôl i Connor Wood lorio Scott Twine.