Mae tîm pêl-droed Wrecsam allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl cael crasfa o 4-0 gan Solihull Moors.

Mae’r canlyniad yn gweld Solihull yn mynd drwodd i rownd gynta’r gystadleuaeth.

Sgoriodd Joe Sbarra ar ôl i Cameron Coxe, gynt o Gaerdydd, fwydo’r bêl iddo.

Fe wnaeth y Saeson ddyblu eu mantais o’r smotyn wrth i Adam Rooney rwydo ar ôl i Elliott Durrell wthio Mitch Hancox.

Sgoriodd Cameron Archer i’w gwneud hi’n 3-0 cyn i Sbarra sgorio’i ail gôl.