Mae’r Gweilch wedi curo Glasgow o 23-15 yn y PRO14 yn Stadiwm Liberty, wrth iddyn nhw sicrhau eu hail fuddugoliaeth mewn tair gêm.

Sgoriodd Reuben Morgan-Williams a Kieran Williams gais yr un, wrth i Stephen Myler sgorio 13 o bwyntiau oddi ar ei droed.

Sgoriodd Huw Jones a George Turner geisiau i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw fethu â chipio pwynt bonws.

Cafodd clo Cymru Adam Beard ei enwi’n seren y gêm.

Manylion

Aeth Glasgow ar y blaen ar ôl tair munud wrth i Huw Jones groesi ar ôl i Nick Grigg ddarganfod y bwlch, ond methodd Peter Horne â’i drosi.

Tarodd y Gweilch yn ôl gyda chic gosb drwy Stephen Myler, cyn i George Turner groesi am gais i’r Albanwyr yn dilyn gwaith caled gan y blaenwyr. Daeth trosiad gan Horne.

Dau bwynt o fantais yn unig oedd gan Glasgow ar yr egwyl, ar ôl i Reuben Morgan-Williams groesi am gais, a Myler unwaith eto’n trosi.

Y Gweilch gafodd y gorau o’r chwarae’n gynnar yn yr ail hanner wrth iddyn nhw fynd ar y blaen gyda chic gosb gan Myler, cyn i Horne daro’n ôl i roi’r ymwelwyr ar y blaen eto ar ôl i Dewi Lake droseddu.

Daeth cais i Kieran Williams yn y gornel, gyda Myler yn trosi unwaith eto cyn llwyddo â chic gosb.

Oni bai am amddiffyn cryf y Gweilch, gallai Glasgow fod wedi sgorio cais yn hwyr yn yr ornest, ond cafodd Adam Beard gerdyn melyn am gamsefyll.

Fe fu’r coronafeirws yn gysgod tros y gêm os nad y canlyniad i’r Gweilch, gyda Scott Otten yn tynnu’n ôl ar ôl dod i gysylltiad â rhywun y tu allan i’r garfan oedd wedi profi’n bositif.

Ac roedd chwaraewr Glasgow wedi profi’n bositif yn gynharach yn yr wythnos, tra bod dau arall yn hunanynysu.