Colli o 38-21 oedd hanes tîm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France yn Paris heno (nos Sadwrn, Hydref 23).
Methodd y maswr Dan Biggar â sawl ymgais at y pyst wrth i Ffrainc gosbi Cymru, oedd wedi methu â manteisio ar ddiffyg disgyblaeth y Ffrancwyr.
Dechreuodd tîm Wayne Pivac yn gadarn, wrth i’r Ffrancwyr wneud camgymeriad o’r lein oddi ar gic gynta’r gêm, a chroesodd Leigh Halfpenny yn y gornel cyn i Biggar ychwanegu dau bwynt.
Ciciodd Biggar gic gosb yn fuan wedyn ar ôl i bac Ffrainc ddangos diffyg disgyblaeth unwaith yn rhagor, ac roedd y dynion yn y crysau cochion ar y blaen o 10-0.
Tarodd Ffrainc yn ôl o fewn dim o dro, wrth i Romain Ntamack fylchu a Cyril Baille yn croesi cyn i Ntamack drosi i’w gwneud hi’n 10-7.
Aeth Cymru ymhellach ar y blaen wedyn drwy gic gosb gan Biggar ar ôl i Grégory Alldritt gael ei ganfod yn camsefyll mewn sgarmes.
Croesodd Antoine Dupont i roi’r Ffrancwyr ar y blaen am y tro cyntaf cyn i Ntamack ychwanegu dau bwynt, cyn i’r ddau gyfuno eto i ymestyn eu mantais i 21-13.
Roedd siom i’r prop Samson Lee ar ôl hanner awr, wrth iddo adael y cae ag anaf yn ei gêm gyntaf dros ei wlad ers blwyddyn.
Y prif bwnc trafod ar yr egwyl oedd a ddylai Antoine Dupont fod wedi gweld cerdyn coch am daro Alun Wyn Jones ar lawr.
Hanner Amser – Ffrainc 21 Cymru 13
Fe wnaeth Cymru leihau’r bwlch i bum pwynt yn fuan wedi’r egwyl wrth i Biggar gicio cic gosb ar ôl i Alldritt gael ei ganfod yn camsefyll eto.
Ond fe wnaeth Ntamack adfer y fantais unwaith eto wrth gicio cic gosb o’r llinell ddeg i’w gwneud hi’n 24-16.
Methodd Biggar â dau ymgais at y pyst o fewn munudau i’w gilydd rhwng 59 a 63 munud, cyn i Ffrainc ymestyn eu mantais i 31-16 pan groesodd Charles Ollivon ar ôl torri’n glir oddi ar gic lac.
Tarodd Cymru’n ôl yn syth oddi ar gamgymeriad Ntamack oedd wedi methu â chasglu’r bêl cyn i Nick Tompkins fylchu a gadael i George North groesi, ond methu wnaeth Biggar eto i ddod â Chymru o fewn un sgôr i’r Ffrancwyr.
Ymestyn eu mantais wnaeth Ffrainc eto yn niwedd y gêm wrth i Teddy Thomas gasglu cic fach bwt ar yr asgell, ac Ntamack yn trosi i gau pen y mwdwl ar noson ddiflas i Gymru.
Sgor terfynol: Ffrainc 38 Cymru 21.