Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud eu bod nhw wedi gwneud “gormod o gamgymeriadau” wrth golli o 38-21 yn erbyn Ffrainc yn Stade de France yn Paris neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 24).
Dyma’r pedwerydd tro yn olynol iddyn nhw golli o dan arweiniad Pivac, a’u colled fwyaf yn erbyn y Ffrancwyr ers 2011.
Gêm baratoadol ar gyfer diweddglo Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban yr wythnos nesaf oedd hon, ond mae gan y garfan dipyn o waith i’w wneud at yr wythnos nesaf os ydyn nhw am orffen ar nodyn uchel.
“Roedden nhw’n llwyr haeddu’r canlyniad ac fe wnaethon nhw fanteisio ar lawer o’n camgymeriadau ni, oedd yn destun siom o’n rhan ni,” meddai Pivac am berfformiad Ffrainc.
“Yn sicr fe gawson nhw dipyn o’r bêl yn ardal y dacl, ac fe wnaethon nhw ein cosbi ni dipyn yn yr ardal honno.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi dechrau’r ddau hanner yn dda, ond roedd gormod o gamgymeriadau o’n hochr ni.
“Roedd llawer o frwydrau yn yr awyr, a doedden ni ddim yn ddigon da yn yr awyr ar y noson.
“Fe wnaethon ni ildio gormod o’r bêl yn ôl i’r Ffrancwyr yn y chwarae agored.
“Cafodd y bêl ei cholli dair gwaith ar adegau hanfodol i ni hefyd.
“Rhaid i ni fod dipyn gwell yr wythnos nesaf.
“Dw i’n credu eich bod chi’n gallu gweld ein bod ni wedi rhydu braidd.
“Rydyn ni wedi dod allan o’r cyfnod clo a does dim llawer o rygbi wedi cael ei chwarae.
“Roedd y chwaraewyr yn dweud rhywbeth tebyg wedyn.
“Roedd yn gam mawr i ni o’r hyn maen nhw wedi’i gael dros y misoedd diwethaf.
“Byddan nhw’n well oherwydd hynny, ond fe wnawn ni adolygu’r perfformiad hwn ac yn edrych ar ardaloedd mae angen i ni weithio arnyn nhw yn ystod yr wythnos.
“Rhaid i ni ddod allan a gwneud llai o gamgymeriadau.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi gadael sawl cais allan yna, felly mae angen i ni fod ychydig yn fwy clinigol o ran y cyfleoedd hynny i sgorio.”
Alun Wyn Jones – dathlu a dioddef
Fe ddaeth y capten Alun Wyn Jones yn gyfartal â’r record byd wrth ennill cap rhif 148 ei yrfa mewn gemau rhyngwladol – y rhan fwyaf dros Gymru a’r gweddill dros y Llewod – ond mae’n ymddangos iddo gael ei daro ar lawr gan benelin y clo Bernard Le Roux.
Wnaeth y swyddogion ddim gweld y digwyddiad ond dywed Wayne Pivac iddo gael gwybod.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd y swyddogion wrth y llyw yn edrych arno fe os ydyn nhw’n meddwl bod rhywbeth ynddo fe,” meddai.
Yr Alban
Bydd sylw Cymru nawr yn troi at yr Alban yr wythnos nesaf.
“Roedd yr Alban yn sicr yn dda iawn yn erbyn Georgia,” meddai.
“Gobeithio y byddwn ni’n rhoi tipyn mwy o bwysau ar yr Alban nag y gwnaeth Georgia, ond byddwn ni’n edrych ar ein gêm ein hunain.
“Byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwella drwyddi draw.
“Bydd yr Alban yn wrthwynebwyr anodd iawn, a bydd rhaid i ni chwarae dipyn gwell nag y gwnaethon ni i gael canlyniad.”