Mae Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, yn cyfaddef fod “gwaith i’w wneud” cyn herio’r Alban yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf (dydd Sadwrn, Hydref 31).

Cafodd yr ornest ei gohirio yn y gwanwyn o ganlyniad i’r coronafeirws, ac fe ddaw ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Dechreuodd paratoadau Cymru yn y modd gwaethaf posib neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 24), wrth iddyn nhw golli o 38-21 yn erbyn Ffrainc yn Stade de France.

Dyma’r tro cyntaf ers 2016 i dîm Cymru golli pedair gêm yn olynol, ac fe wnaethon nhw ildio’r nifer fwyaf o bwyntiau i dîm yn Ewrop ers 13 o flynyddoedd.

Maen nhw wedi ildio 15 cais mewn pedair gêm, a daeth eu hunig fuddugoliaethau hyd yn hyn o dan arweiniad Wayne Pivac yn erbyn yr Eidal a’r Barbariaid.

‘Dim esgusodion’

“Does dim esgusodion o fod yn rhydlyd o safbwynt y chwaraewyr,” meddai Alun Wyn Jones ar ôl gêm gyntaf Cymru ers saith mis.

“Rydyn ni ar drothwy gêm gystadleuaeth yn y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.

“Mae wythnos fer gyda ni i wneud yn iawn am hynny, a dyna fyddwn ni’n canolbwyntio arno.

“Ro’n i’n meddwl bod ein rheolaeth ar y gêm yn dda iawn ar adegau, ond fe wnaeth Ffrainc fanteisio wrth droi’r bêl drosodd a’n ciciau llac wrth wrthymosod, ac fe wnaethon nhw groesi’r llinell.

“Mae’n gyfnod byr o amser cyn yr Alban, ac mae gyda ni waith i’w wneud i baratoi ar gyfer honno.”