Mae Tao Geoghegan Hart, aelod o dîm Ineos gyda Geraint Thomas, wedi ymuno â’r Cymro ar restr ddethol o bump o seiclwyr o wledydd Prydain sydd wedi ennill ras y Giro d’Italia.

Daw ei fuddugoliaeth mewn ras lle’r oedd e wedi disgwyl cynorthwyo’r Cymro cyn iddo dynnu’n ôl oherwydd anaf yn dilyn gwrthdrawiad yn ystod y trydydd cymal.

Fe wnaeth y Sais 25 oed guro’r Awstraliad Jai Hindley o 39 eiliad yn y ras yn erbyn y cloc dros bellter o 15.7km ym Milan – a hynny ar ôl bod yn gyfartal o ran amser cyn y cymal olaf, y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd ar drothwy’r cymal olaf.

Roedd y Sais ar y blaen bob tro y cafodd amser ei gofnodi yn ystod y cymal, gan orffen mewn 18 munud, 19.40 eiliad.

Filippo Ganna oedd gyflymaf yn erbyn y cloc (17:16:55), a Victor Campernaerts 32 eiliad ar ei ôl e yn yr ail safle.

Mae Tao Geoghegan Hart yn ymuno â Geraint Thomas, Bradley Wiggins, Chris Froome a Simon Yates fel enillydd un o dair ras fawr y Grand Tour – yr unfed tro ar ddeg i seiclwr o wledydd Prydain ennill y ras ers 2012, a’r enillydd cyntaf o wledydd Prydain i ennill y ras ers Chris Froome ddwy flynedd yn ôl.