Mae tîm rygbi’r Dreigiau wedi cael crasfa o 40-17 yn Ulster yn y PRO14.

Sgoriodd y Gwyddelod lu o geisiau ar eu ffordd i fuddugoliaeth swmpus a phwynt bonws, gyda Marcell Coetzee, Eric O’Sullivan, Alan Connor a Sean Reidy yn croesi am gais yr un, tra bod Luis Ludik wedi cael dau, a John Cooney yn llwyddiannus gyda phum cic at y gôl.

Sgoriodd Ashton Hewitt a Jamie Roberts geisiau’r Dreigiau, a’r saith pwynt arall yn dod oddi ar droed Sam Davies.

Mae’n golygu bod Ulster yn ail yng Ngyghrair A, un pwynt y tu ôl i Munster, tra bod y Dreigiau’n bumed gyda phum pwynt ochr yn ochr â Glasgow ar ôl tair gêm.