Cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl Droed yr wythnos hon y bydd y gêm yn erbyn Unol Daleithiau’r America a gafodd ei gohirio ym mis Mawrth yn cael ei chwarae ar y 12fed o Dachwedd.
Tair gêm mewn chwe diwrnod i dîm Ryan Giggs unwaith eto felly yn y cyfnod rhyngwladol nesaf a bydd angen carfan gref arno i ymdopi â’r her.
Ond gydag ychydig dros bythefnos i fynd, pwy sydd yn ffit, pwy sydd yn chwarae a phwy sydd yn tanio?
Uwch Gynghrair Lloegr
Chwaraeodd Ethan Ampadu 90 munud i Sheffield United yn erbyn Lerpwl nos Sadwrn ac er i’w dîm golli gêm agos o ddwy gôl i un, creodd chwaraewr Cymru argraff gyda’i berfformiad yng nghanol y cae. Gobeithio fod ei reolwr, Chris Wilder, wedi gweld digon i roi rhediad da o gemau iddo yn y safle hwnnw yn awr.
Ar wahân i Amps, prin iawn a oedd ymddangosiadau gan Gymry’r Uwch Gynghrair y penwythnos hwn. Ychydig llai nag awr gan Dan James i Man U mewn gêm ddiflas ddi sgôr yn erbyn Chelsea a oedd yr unig funudau eraill. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Tyler Roberts i Leeds yn erbyn Aston Villa, Danny Ward i Gaerlŷr yn Arsenal a Neco Williams i Lerpwl.
Gall cyfraniad y Cymry gynyddu’n sylweddol nos Lun wrth i Tottenham deithio i Burnley. Bydd Ben Davies a Gareth Bale yn gobeithio cadw eu lle yn y tîm ar ôl dechrau yn erbyn LASK yng Nghynghrair Europa nos Iau a bydd Joe Rodon yn gobeithio cael ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers ymuno o Abertawe.
Y Bencampwriaeth
Gemau cyfartal gôl yr un a gafodd y ddau dîm o Gymru yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, Caerdydd gartref yn erbyn Middlesbrough ac Abertawe oddi cartref yn erbyn Bristol City.
Chwaraeodd Will Vaulkes, Harry Wilson a Kieffer Moore y gêm gyfan i’r Adar Gleision gyda Moore yn creu unig gôl ei dîm i Sheyi Ojo. Daeth y gêm hon dridiau wedi i Gaerdydd groesawu Bournemouth i Stadiwm y Ddinas, pan sgoriodd Wilson ei gôl gyntaf dros y clwb.
Dechreuodd Ben Cabango a Connor Roberts yn yr amddiffyn i Abertawe yn Ashton Gate ond cawsant eu hamddifadu o lechen lân yn hwyr yn y gêm wedi i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn ddadleuol i’r tîm cartref yn dilyn trosedd honedig gan Roberts.
Un gôl a gafodd ei sgorio gan Gymro yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn a daeth honno o ffynhonnell annisgwyl wrth i’r amddiffynnwr canol, Chris Mepham, gipio pwynt i Bournemouth gyda gôl hwyr yn Watford. Parhau i fod ag anaf y mae Dai Brooks.
Un sydd yn dychwelyd o anaf ac yn chwarae mwy o funudau bob wythnos yw Tom Lawrence i Derby. Chwaraeodd y Cymro 86 munud o’r gêm ddarbi yn erbyn Nottingham Forest nos Wener, gêm a orffennodd yn gyfartal.
Mae dechrau da Luton i’r tymor yn parhau wedi iddynt drechu Sheffield Wednesday o gôl i ddim ddydd Sadwrn. Cyfrannodd Tom Lockyer, Rhys Norrington-Davies a Joe Morrell at y llechen lân a’r fuddugoliaeth, yn chwarae’r gêm gyfan wrth i dîm Nathan Jones godi i’r nawfed safle yn y tabl.
Y tîm sydd un safle uwch eu pennau yw Stoke ac fe chwaraeodd tri Chymro eu rhan yn eu buddugoliaeth hwy brynhawn Sadwrn hefyd. Dechreuodd Adam Davies yn y gôl a James Chester yn yr amddiffyn yn erbyn Brentford ac roedd deg munud oddi ar y fainc i Sam Vokes.
Colli a oedd hanes Shaun MacDonald gyda Rotherham a Joe Jacobson gyda Wycombe ond roedd buddugoliaeth i Preston ac Andrew Hughes. Sôn am Preston, ymddengys nad yw Billy Bodin yn cael ei ffafrio gan Alex Neil yn Deepdale ar hyn o bryd, nid yw’r Cymro wedi bod yn y tîm nac ar y fainc ers rhai wythnosau bellach.
Cynghreiriau is
Roedd digon o ddiddordeb Cymreig yn y frwydr fawr rhwng Lincoln ac Ipswich ar frig yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn. Dechreuodd James Wilson a Gwion Edwards i Ipswich, gydag Edwards yn gwastraffu un cyfle da i sgorio.
Lincoln yn hytrach a aeth â hi gan godi i frig y tabl wrth i Brennan Johnson serennu unwaith eto. Fe sgoriodd y Cymro ifanc un a chreu un arall wrth i’w dîm guro Plymouth ganol wythnos ac roedd yng nghanol pethau eto yn erbyn Ipswich, yn ennill y gic o’r smotyn holl bwysig a enillodd y gêm i’w dîm.
Dechreuodd tri Chymro i Charlton yn Northampton. Chwaraeodd Chris Gunter 90 munud mewn amddiffyn a gadwodd lechen lân yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim. Cyn chwaraewr Abertawe, Darren Pratley, a sgoriodd gôl gyntaf yr Addicks a hynny ar ôl dod i’r cae fel eilydd hanner amser yn lle Dylan Levitt. Ar y fainc y gorffennodd Jonny Williams y gêm hefyd ar ôl chwarae 77 munud.
Roedd Lee Evans yn meddwl ei fod wedi sgorio i Wigan yn erbyn Plymouth ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu yn dilyn penderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr. Roedd Tom James yn nhîm y Latics yn y gêm gyfartal gôl yr un hefyd a chwaraeodd Luke Jephcott bron i awr i’r gwrthwynebwyr.
Roedd llu o Gymry ar y cae yn Bloomfield Road yn ogystal wrth i Blackpool groesawu’r MK Dons. Bu bron i Regan Poole agor y sgorio i’r Dons ond gwyrodd ei ergyd heibio i bostyn Chris Maxwell. Blackpool yn hytrach a aeth â hi o un gôl, gyda Jordan Williams yn chwarae 90 munud a Ben Woodburn yn dechrau ei gêm gyntaf ers ymuno ar fenthyg o Lerpwl.
Chwaraeodd Matthew Smith y mwyafrif o’r gêm wrth i Doncaster golli yn erbyn Crewe a daeth Ched Evans oddi ar y fainc i sgorio ym muddugoliaeth Fleetwood dros Gillingham.
Does neb yn hiraethu am y dyddiau pan yr oedd Cymru’n gorfod dewis chwaraewyr o’r Ail Adran ond mae’n werth nodi fod Casnewydd yn hedfan ar frig y gynghrair honno ar hyn o bryd gyda sawl Cymro yn cyfrannu at y llwyddiant.
Mae dau gyn chwaraewr Abertawe, Josh Sheehan a Liam Sheppard, yn chwarae’n rheolaidd yn nhîm Mike Flynn. Ond efallai mai un o chwaraewyr cyfredol yr Elyrch sydd ar fenthyg yn Rodney Parade y dylai cefnogwyr Cymru fod yn fwyaf ymwybodol ohono. Mae’r amddiffynnwr canol ugain oed, Brandon Cooper, yn creu cryn argraff yng Nghasnewydd ac yn aelod rheolaidd o garfan dan un ar hugain Cymru Paul Bodin.
Yr Alban a thu hwnt
Wedi i’r tri chwarae 90 munud mewn buddugoliaeth ganol wythnos dros Hamilton, fe ddechreuodd Ash Taylor, Ryan Hedges a Marley Watkins i Aberdeen eto wrth iddynt groesawu Celtic i Pittodrie brynhawn Sul.
Ac am gêm oedd hi wrth i’r tîm cartref gipio pwynt mewn gêm gyfartal, tair gôl yr un. Hedges a oedd seren y gêm, yn sgorio ail Aberdeen cyn chwarae rhan amlwg yn y symudiad a arweiniodd at y gic o’r smotyn a sicrhaodd y pwynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Cymro arall a enillodd gic o’r smotyn holl bwysig yn yr Alban dros y penwythnos a oedd Christian Doidge, yn cael ei lorio yn y cwrt cosbi yn erbyn Kilmarnock gan arwain at unig gôl y gêm i Kevin Nisbet.
Gwahaniaeth goliau yn unig sydd yn cadw Dunfermline o frig tabl Pencampwriaeth yr Alban yn dilyn buddugoliaeth o bedair gôl i un yn erbyn Alloa ddydd Sadwrn. Mae’n ddyddiau cynnar yn y tymor ond a all Owain Fôn Williams fod ar ei ffordd yn ôl i’r Uwch Gynghrair yno?
Llwyddodd Rabbi Matondo i bechu cefnogwyr Schalke dros yr haf wrth i luniau ddod i’r fei ohono’n hyfforddi yng nghit Dortmund ei gyfaill, Jadon Sancho. Mae gelyniaeth fawr rhwng y ddau dîm ac roedd cyfle i Matondo wneud yn iawn am ei gamgymeriad wrth iddynt wynebu ei gilydd yn y Bundesliga ddydd Sadwrn. Dechreuodd y Cymro’r gêm ond roedd Dortmund yn rhy gryf o lawer, yn ennill yn gyfforddus o dair gôl i ddim.
I aros yn yr Almaen, roedd James Lawrence ar y fainc am y tro cyntaf ers iddo ddychwelyd i St. Pauli o Anderlecht wrth iddynt deithio i Darmstadt ddydd Sadwrn.
Mae Dinamo Zagreeb yn aros ar frig cynghrair Croatia ar ôl curo Sibenik brynhawn Sul, newyddion da iawn i Robbie Burton a ddechreuodd y gêm.
Nid oedd Juventus yn chwarae tan yn hwyr nos Sul ond doedd fawr o syndod gweld Aaron Ramsey yn y tîm yn erbyn Verona wedi iddo serenu yn erbyn Dinamo Kiev yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos.
Gwilym Dwyfor