Bydd clo Ffrainc Bernard Le Roux yn wynebu panel disgyblu ddydd Mawrth, Hydref 27, ar ôl iddi ymddangos iddo daro Alun Wyn Jones ar lawr gyda’i benelin.

Digwyddodd y digwyddiad yn ystod hanner cyntaf gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Ffrainc nos Sadwrn (Hydref 24).

Ni welodd y dyfarnwr Karl Dickson a’r tîm o ddyfarnwyr y digwyddiad yn ystod y gêm.

Colli o 38-21 oedd hanes tîm rygbi Cymru yn y Stade de France ym Mharis.

Ar ôl y gêm, gwrthododd Prif Hyfforddwr Cymru Wayne Pivac ac Alun Wyn Jones ymateb i’r digwyddiad gan ddweud ei fod bellach yn nwylo’r swyddogion.

Gallai Bernard Le Roux wynebu colli gêm rownd derfynol y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon y penwythnos nesaf.